Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwasanaethau DBS

Pa sefydliadau fydd Cyngor Sir Powys yn gallu cynnig gwasanaeth ar eu cyfer?

Sefydliadau

A ydych chi'n prosesu llai na 1,000 o wiriadau DBS y flwyddyn?  Mae ein gwasanaethau corff ymbarel ar gyfer sefydliadau o bob maint yn ffordd syml ac eto effeithlon o reoli eich gwiriadau DBS ar-lein. Yn dilyn cyfnod o ymgynghori, byddwn yn datblygu'r pecyn delfrydol ar gyfer eich anghenion DBS.  O dan arweiniad arbenigol ein tim, bydd hi'n ffordd hawdd iawn i chi cwblhau gwiriadau ar gyfer eich staff ac/neu wirfoddolwyr. 

  • Gwiriadau DBS diderfyn, Gwiriadau Sylfaenol a gwiriadau Oedolyn yn Gyntaf DBS
  • Mae'r gwasanaeth ar gael 24/7
  • Canlyniadau ar-lein cynt
  • Dilysu manylion adnabod allanol cyfun
  • Cefnogaeth a chyngor un i un dros y ffôn ar gyfer ymgeiswyr a swyddogion dilysu
  • Ateb pob ymholiad erbyn diwedd y dydd drwy e-bost
  • Systemau canlyniadau dilysu a dilynol awtomataidd
  • Ceisiadau'n cael eu cydlofnodi a'u cyflwyno erbyn diwedd y dydd
  • Argymhellion recriwtio ar eich cais

Gallwn addasu'r pecyn hwn ar ôl cyfnod ymgynghori i gwrdd â'ch anghenion busnes.

 

Corfforaethol

A ydych chi'n prosesu dros 1,000 o wiriadau DBS y flwyddyn ac yn edrych am ffordd gyflymach, mwy effeithlon o reoli eich gwiriadau DBS?  Bydd ein system ar-lein, a ellir ei addasu i'ch gofynion am ddim, yn symleiddio eich proses recriwtio a diogelu, yn lleihau unrhyw oedi gweinyddol ac allanoli llawer o'r cyfrifoldeb.

  • Gwiriadau DBS diderfyn, Gwiriadau Sylfaenol a gwiriadau Oedolyn yn Gyntaf DBS
  • Mae'r gwasanaeth ar gael 24/7
  •  Canlyniadau ar-lein cynt
  •  Dilysu manylion adnabod allanol cyfun
  • Cefnogaeth a chyngor un i un dros y ffôn ar gyfer ymgeiswyr, swyddogion dilysu a gweinyddwyr
  • Ateb pob ymholiad erbyn diwedd y dydd drwy e-bost
  • Systemau canlyniadau dilysu a dilynol awtomataidd
  •  Applications Ceisiadau'n cael eu cydlofnodi a'u cyflwyno erbyn diwedd y dydd
  • Argymhellion recriwtio ar eich cais
  • Eich gwefan dynodedig eich hun am ddim
  • Amrywiaeth o lefelau mynediad hyblyg i ddefnyddwyr
  • Ystod eang o adroddiadau ar gael ar eich cais
  • Provision Tri diwrnod o hyfforddiant am ddim
  • Llawlyfrau hyfforddiant gyda gwedd bersonol

 

Manylion cyswllt

  • Ebost: dbs@powys.gov.uk
  • Rhif ffôn: 01597 826814 / 01597 826886
  • Cyfeiriad: Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, Y Gwalia, Ffordd Ieithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Eich sylwadau am ein tudalennau