Toglo gwelededd dewislen symudol

Ceisiadau ac olrhain trywydd DBS

E in nod fel gwasanaeth corff ymbarel yw darparu system DBS hanfodol a chost effeithiol a fydd yn diwallu eich anghenion busnes ac yn helpu i sicrhau bod nodau recriwtio diogel eich sefydliad yn cael eu cyflawni.  Ry'n ni'n deall nad yw pob sefydliad yr un fath felly ry'n ni'n cynnig gwahanol becynnau a fydd yn addas ar gyfer eich anghenion busnes.

 

DBS Finalist awards


Gwobr 'GO Procurement' Tîm y Flwyddyn - Rownd Derfynol

Gwobr 'GO Procurement' Arloesedd / Menter - Rownd Derfynol - Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru a Thai

 

Sefydliad cenedlaethol yw'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd sy'n chwilio cofnodion yr heddlu, ac mewn achosion perthnasol, gwybodaeth am restrau o bobl waharddedig, er mwyn asesu p'un ai os gall ymgeiswyr cael eu cyflogi'n ddiogel ac yn briodol.  

Mae Cyngor Sir Powys yn darparu gwasanaeth corff ymbarel effeithlon, cadarn a thryloyw sy'n galluogi sefydliadau o bob maint a diben i brosesu eu gwiriadau DBS yn gyflym ac yn fwy effeithlon.

Trwy eBulk, y ffordd gyflymaf a'r mwyaf effeithlon o brosesu gwiriadau DBS a system cymorth helaeth sy'n cael ei atgyfnerthu gan wybodaeth enfawr o'r DBS gan dim ymroddedig y DBS, gall Cyngor Sir Powys darparu system DBS hanfodol ac wedi'i bersonoli ar gyfer eich sefydliad a fydd yn atgyfnerthu gweithdrefnau recriwtio diogel a gwella eich polisiau diogelu.