Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

NERS - gwybodaeth sesiwn

NERS - Sefydlogrwydd Craidd
Image of someone taking part in a NERS balance and strength session

Bydd y sesiynau hyn yn rhoi cymorth ac anogaeth i'r rhai sy'n dioddef poen cefn difrifol i wneud ymarfer corff, yn dilyn asesiad gan eich weithiwr iechyd proffesiynol. 

Mae'r sesiynau'n cael eu cynnal ddwywaith yr wythnos gyda'r nod o wella symudedd trwy ymarfer corff ysgafn i ddatblygu osgo da, i gryfhau cyhyrau sy'n cynnal y cefn a chael unrhyw gymalau anystwyth ac anghyfforddus i symud eto.  Mae'r rhaglen wedi'i seilio ar dystioldaeth.

Bydd Arbenigwr Ymarfer Corff L4 mewn gofal cefn yn arwain y rhaglen.

NERS Cydbwyso a Nerth
Image of someone taking part in a NERS fall prevention session

Bydd ein staff cymwys yn cynnal sesiynau ddwywaith yr wythnos gyda'r nod o leihau'r perygl o syrthio. 

Bydd y sesiynau Cydbwyso a Nerth yn eich helpu i gadw'n annibynnol, i gadw ar eich traed er mwyn symud o gwmpas.  Os ydych yn meddwl y gallai hyn eich helpu, mynnwch air â'ch Nyrs Arbenigol yn y maes hwn i gael asesiad meddygol.

Adsefydliad Cardiaidd NERS
Image of someone taking part in a NERS cardio-rehab session

Os ydych yn dioddef o glefyd coronaidd y galon gallwch fod yn gymwys ar gyfer ein rhaglen Adsefydlu Cardiaidd Cam IV.  Rhaglen ymarfer corff hwyliog dros 16 wythnos ar gyfer pobl fel chi sydd am fyw bywyd iachach yw'r rhaglen hon.

Os ydych wedi cymryd rhan yn y rhaglen Adsefydlu Cardiaidd Cam III yn ddiweddar, neu os yw eich Meddyg Teulu yn dweud eich bod yn addas, gallwch ddod i ymuno â phobl eraill sydd yn yr un sefyllfa a'n hyfforddwyr cymwys yn un o'n Canolfannau Hamdden.