Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau Iechyd yn eich Canolfan Hamdden - Rhaglen Ymarfer Corff i Bobl Ifanc

Os wyt ti rhwng 9-15 oed, gallet gymryd rhan yn ein sesiynau YEP!

Mae cadw'n heini'n bwysig iawn, yn ogystal â chymdeithasu a theimlo'n dda amdanot ti dy hun.

Dere draw i'n sesiynau a byddi'n siwr o :

  • wella dy lefelau egni
  • helpu i reoli dy bwysau
  • cael corff mwy iach sy'n edrych ac yn teimlo'n dda
  • gwella dy berfformiad mewn chwaraeon
  • dysgu sgiliau newydd
  • cwrdd â ffrindiau newydd
  • hyfforddi ar dy gyflymder dy hun
  • cael hwyl!

Cysyllta efo dy Ganolfan Hamdden agosaf i gael rhagor o wybodaeth.