Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgolion arbennig a chanolfannau arbenigol

Images of hands in the air in a classroom

Fel arfer bydd anghenion dysgu ychwanegol plant yn cael eu diwallu o fewn ysgolion neu leoliadau prif ffrwd.

I rai plant, ni fydd ysgol prif ffrwd yn gallu cynnig y gefnogaeth angenrheidiol, ac i helpu'r rhai hynny sydd ag anghenion difrifol a chymhleth, mae nifer o ganolfannau arbenigol sy'n gysylltiedig ag ysgolion babanod, iau, cynradd ac uwchradd prif ffrwd.  Hefyd mae tair ysgol arbennig sy'n gwasanaethu'r rhai hynny sydd angen cefnogaeth ddwys ac arbenigol.

Ysgolion arbennig

Ysgol Penmaes logo
 Ysgol Penmaes

Ysgol gydaddysgol yn Ne Powys sy'n darparu addysg ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu dwys a lluosog, anawsterau dysgu difrifol ac anawsterau cyfathrebu difrifol

Brynllywarch Hall School logo
 Brynllywarch Hall School

Ysgol gydaddysgol sy'n darparu addysg ar gyfer plant ag anawsterau dysgu cymedrol a/neu anawsterau cymdeithasol, emosiynol neu ymddygiadol

Ysgol Cedewain Logo
 Ysgol Cedewain

Ysgol gydaddysgol yng Ngogledd Powys sy'n darparu addysg ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu dwys a lluosog, anawsterau dysgu difrifol ac anawsterau cyfathrebu difrifol

Mae gan Gyngor Sir Powys strategaeth ADY - Dyfodol Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) / Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ym Mhowys. Fel rhan o'r strategaeth hon, er mwyn i ddysgwyr ag ADY gael eu lleoli mewn darpariaeth sy'n bodloni â'u hanghenion mor agos i'w cartrefi ag sy'n ymarferol bosibl, mae sawl dosbarth ategol ysgolion arbennig yn weithredol neu ar fin cael eu hagor.

Mae gan Ysgol Penmaes ddosbarth ategol yn Ysgol Gynradd Crossgates y tu allan i Landrindod.

Bydd gan Bryllywarch Hall ddosbarth lloeren yn Ysgol Maesydderwen yn Ystradgynlais.

Bwriedir cael dosbarth ategol pellach ysgol arbennig yn y dyfodol yn Ysgol Llanfyllin.

Canolfannau arbenigol

Mae Canolfannau Arbenigol yn adnodd ychwanegol sy'n rhoi cyfle i ddisgyblion cael cymorth arbenigol a phenodol i'w anghenion nhw er mwyn ceisio cau a lleihau unrhyw fwlch yn eu haddysg. 

Mae yna ganolfannau arbenigol ar draws pob cyfnodau addysg.  Fe'u gelwir yn aml yn:

  • Gyfleusterau Addysgu Arbenigol
  • Canolfan ASD
  • Yr "Uned" yn ......
  • Unedau Asesu cyn oed ysgol
  • Canolfannau Asesu
  • Unedau Arbenigol

Llefydd yn y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 - Mae'r 4 canolfan arbenigol yn ogystal â, nid yn hytrach na lle mewn ysgol prif ffrwd.

Cludiant ysgol

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am gludiant ysgol - Anghenion Addysgol Arbennig, ewch i dudalen cludiant ysgolion.

 

Cysylltiadau

Neu os hoffech gael gwybodaeth am ein darpariaeth addysg presennol i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, cysylltwch â ni drwy'r fanylion isod:

Rhowch sylwadau am dudalen yma