Ysgolion arbennig a chanolfannau arbenigol

Fel arfer bydd anghenion addysgol arbennig plant yn cael eu diwallu o fewn ysgolion neu leoliadau prif ffrwd.
I rai plant, ni fydd ysgol prif ffrwd yn gallu cynnig y gefnogaeth angenrheidiol, ac i helpu'r rhai hynny sydd ag anghenion difrifol a chymhleth, mae nifer o ganolfannau arbenigol sy'n gysylltiedig ag ysgolion babanod, iau, cynradd ac uwchradd prif ffrwd. Hefyd mae tair ysgol arbennig sy'n gwasanaethu'r rhai hynny sydd angen cefnogaeth ddwys ac arbenigol.
Ysgolion arbennig
Ysgol Penmaes
Ysgol gydaddysgol yn Ne Powys sy'n darparu addysg ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu dwys a lluosog, anawsterau dysgu difrifol ac anawsterau cyfathrebu difrifol
Brynllywarch Hall School
Ysgol gydaddysgol sy'n darparu addysg ar gyfer plant ag anawsterau dysgu cymedrol a/neu anawsterau cymdeithasol, emosiynol neu ymddygiadol
Ysgol Cedewain
Ysgol gydaddysgol yng Ngogledd Powys sy'n darparu addysg ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu dwys a lluosog, anawsterau dysgu difrifol ac anawsterau cyfathrebu difrifol
Canolfannau arbenigol
Mae Canolfannau Arbenigol yn adnodd ychwanegol sy'n rhoi cyfle i ddisgyblion cael cymorth arbenigol a phenodol i'w anghenion nhw er mwyn ceisio cau a lleihau unrhyw fwlch yn eu haddysg.
Mae yna ganolfannau arbenigol ar draws pob cyfnodau addysg. Fe'u gelwir yn aml yn:
- Gyfleusterau Addysgu Arbenigol
- Canolfan ASD
- Yr "Uned" yn ......
- Unedau Asesu cyn oed ysgol
- Canolfannau Asesu
- Unedau Arbenigol
Llefydd yn y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 - Mae'r 4 canolfan arbenigol yn ogystal â, nid yn hytrach na lle mewn ysgol prif ffrwd.
Cludiant ysgol
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am gludiant ysgol - Anghenion Addysgol Arbennig, ewch i dudalen cludiant ysgolion.
Neu os hoffech gael gwybodaeth am ein darpariaeth addysg presennol i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, cysylltwch â ni drwy'r fanylion isod: Pe ddymunech gael mwy o wybodaeth am Raglen Drawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol mae croeso i chi gysylltu â ni: Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma