Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cymorth yr Awdurdod Lleol ar gyfer ADY

Cymorth y mae'r Awdurdod Lleol yn ei ddarparu ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol gan gynnwys y Gwasanaeth Seicoleg Addysg a Gwasanaeth y Tîm Synhwyraidd.

 

Gwasanaeth Seicoleg Addysg

Credwn:

  • y dylai pawb gael ei gynnwys a bod pawb yn werthfawr
  • y dylai anghenion plant a phobl ifanc fod wrth wraidd popeth a wnawn
  • bod pob rhyngweithio'n gyfle i ddysgu
  • mai adeiladu ar gryfderau sy'n bodoli eisoes, a meithrin perthnasoedd positif yw'r allwedd i newid.

Rydym am helpu plant i fod yn hapus a gwneud cynnydd.

Gwnawn hyn drwy ddefnyddio seicoleg - astudiaeth wyddonol o'r meddwl, ymddygiad dynol, dysgu a pherthnasoedd. Gall ein gwaith gynnwys:

  • Asesu
  • Arsylwi
  • Ymyrryd
  • Ymgynghori
  • Hyfforddi
  • Ymchwilio

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a gweithwyr proffesiynol i gynorthwyo plant a phobl ifanc (hyd at 19 oed ar hyn o bryd) sy'n cael eu hatgyfeirio gan ysgolion neu leoliadau blynyddoedd cynnar o fewn yr Awdurdod Lleol neu wedi'u comisiynu ganddo.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i  Canllawiau Llywodraeth Cymru. (PDF) [308KB]

 

Y Tîm Gwasanaeth Synhwyraidd

Bydd y Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd yn gweithio gyda babanod, plant a phobl ifanc â nam ar y synhwyrau sydd wedi'i ddynodi o bwynt y diagnosis hyd at 19 oed.

Mae'r Gwasanaeth: 

  • yn darparu cymorth addysgu uniongyrchol ar gyfer plant a phobl ifanc yn ôl y galw
  • yn darparu cyngor a hyfforddiant i deuluoedd a lleoliadau addysgol ar gyfer materion sy'n ymwneud â nam ar y synhwyrau. 
  • yn cynnal asesiadau ymarferol o allu gweledol/clywedol, yn cynghori ynglyn â'r goblygiadau ar gyfer dysgu a dabtlygu ac yn cynorthwyo staff ysgol ar dechnegau a strategaethau addysgu effeithio ac addasiadau i'r cwricwlwm.
  • yn cynghori ynglyn â threfniadau arbennig ar gyfer profion ac arholiadau.
  • yn cynnal asesiadau ymarferol o'r amgylchedd ac yn cynghori ynglyn ag addasiadau i'r amgylchedd ffisegol. 
  • Darparu a chynorthwyo'r defnydd cywir o dechnoleg gynorthwyol (er enghraifft cymhorthion clywed, mewnblaniad cochlea, systemau maes sain, CCTV).  

 

Website accessibility checker icon
   Mae'r dogfennau pdf ar y dudalen hon yn cydymffurfio â safonau hygyrchedd