Ysgol Bro Hyddgen
Mae'r Cyngor yn bwriadu darparu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth, ysgol bob oed gyntaf y Cyngor, a sefydlwyd yn 2014 yn dilyn uno Ysgol G.G. Machynlleth ac Ysgol Bro Ddyfi.

Ym mis Hydref 2024, cymeradwywyd caniatâd cynllunio ar gyfer yr adeilad newydd. Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol, a bydd yn galluogi'r Cyngor i symud ymlaen gyda'r cynlluniau.
Dyma fydd adeilad ysgol bob oed Passivhaus cyntaf y Cyngor, gan gyflawni Carbon Sero Net ar waith.
Cam nesaf y prosiect fydd cwblhau'r gwaith dylunio, cyn mynd allan i dendr ar gyfer contractwr adeiladu.
Mae'r ysgol hefyd yn trosglwyddo o fod yn ysgol dwy ffrwd if od yn ysgol cyfrwng Cymraeg, felly bydd symud ymlaen gyda'r cynlluniau ar gyfer yr adeilad newydd yn cefnogi gweithredu Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor (WESP).