Rhaglen Hyfforddiant i Lywodraethwyr
Ym mis Medi 2013 daeth Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 i rym. Daeth yr holl hyfforddiant cynefino a data ar gyfer clercod a chadeiryddion yn orfodol.
- Rhaid i lywodraethwyr newydd eu penodi fynychu hyfforddiant Cynefino o fewn blwyddyn i'w penodi.
- Rhaid i bob llywodraethwr fynychu hyfforddiant Data o fewn blwyddyn i'w penodi neu ail-benodi.
- Rhaid i gadeirydd llywodraethwyr sydd newydd ei benodi fynychu hyfforddiant Cadeiryddion o fewn chwe mis i'w hethol i'r swydd.
- Hefyd, rhaid i bob clerc sydd newydd gael eu penodi i gorff llywodraethu fynychu'r hyfforddiant i glercod o fewn deuddeg mis i gael eu penodi.
Mae penaethiaid wedi eu heithrio o gyflawni'r hyfforddiant gorfodol; fodd bynnag, mae croeso i benaethiaid sydd newydd gael eu penodi fynychu'r hyfforddiant a byddai'n rhoi:
- Dealltwriaeth well o rôl llywodraethwyr yn yr hyfforddiant cynefino,
- Dealltwriaeth o beth yw hyfforddiant Data a sut i gyflwyno data i lywodraethwyr
- Dealltwriaeth o rôl y Cadeirydd a sut i ddatblygu perthynas weithio a chefnogol dda â'r Cadeirydd 7. Gall llywodraethwyr fynychu hyfforddiant gorfodol a gynigir gan Wasanaethau Cymorth i Lywodraethwyr mewn awdurdodau lleol cyfagos.
Mae copi o'r hyfforddiant sydd ar gael yn ardal ERW ar wefan ERW
Dilynwch ni arCysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma