Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhybudd Preifatrwydd ar gyfer Archifau

Er mwyn darparu'r Gwasanaeth Archifau i chi, rydym yn casglu ac yn cadw rhywfaint o wybodaeth bersonol amdanoch chi. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Enw, cyfeiriad, manylion cyswllt yn cynnwys rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
  • Eich pwnc ymchwil ac unrhyw ymchwil y gwnaethom ni ar eich cyfer chi
  • Eitemau rydych chi wedi adneuo neu roi i ni
  • Eitemau rydym ni wedi copïo i chi, eitemau rydych chi wedi tynnu llun ohonynt, ac eitemau sydd wedi cael eu trwyddedu er eich defnydd chi
  • Dyddiad, dull a chyfanswm unrhyw daliadau ry'ch chi wedi gwneud ynghyd ag unrhyw daliadau rydych chi heb eu gwneud am waith ymchwil.

Mae angen i ni ddefnyddio'r wybodaeth yma er mwyn i ni ddarparu'r Gwasanaeth Archifau i chi. Yn benodol, rydym yn casglu gwybodaeth ar gyfer ein llyfr ymwelwyr; yn prosesu eitemau newydd wedi'u hadneuo; prosesu copiau, caniatâd ffotograffau, trwyddedau, ac ymchwil; ein rhestr bostio; a recriwtio gwirfoddolwyr.

 

Sut rydym ni'n defnyddio'r wybodaeth yma?

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio i'r diben y casglwyd amdano yn unig h.y. i brosesu eitem newydd sy'n cael ei adneuo neu ar gyfer cytundeb hawlfraint.

Byddwn yn ychwanegu eich manylion cyswllt i'n rhestr bostio os ydym wedi cael eich caniatâd penodol yn unig.

 

Pwy sy'n gallu gweld y wybodaeth yma?

Mae'r data rydym yn cadw amdanoch chi yn cael ei gadw ar rwydwaith cyfrifiadurol diogel, sy'n cael ei ddefnyddio gan staff yr Archifau a Rheoli Gwybodaeth Powys yn unig.

Mae copïau papur o ffurflenni, ein cofrestr dderbyniadau a llyfr adneuwyr yn cael eu cadw'n ddiogel.

 

Cywirdeb data

Mae'n bwysig bod y wybodaeth rydym yn cadw amdanoch chi yn gywir. Os oes unrhyw ran o'ch manylion yn newid, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib fel ein bod yn gallu diweddaru eich cofnodion.

 

Darganfod rhagor

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn disgrifio'r data sy'n cael ei gadw gan y Gwasanaeth Archifau. Am ragor o wybodaeth ar sut mae Cyngor Sir Powys yn cadw eich data personol, yn cynnwys eich hawliau fel pwnc data, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd Corfforaethol