Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Prynu Tocynnau Crwydro, Tocynnau Teulu neu Docynnau Aml-Daith

Tocyn Crwydro Powys

Dim ond £9 i oedolyn a £6 i blentyn yw pris Tocyn Crwydro Powys. Gyda hwn, gallwch deithio ar fysys sy'n rhan o'r cynllun yn ddi-ben-draw trwy'r dydd. Gallwch dorri eich siwrnai pryd bynnag a lle bynnag y dymunwch.

Prynwch docyn ar y bws cyntaf yr ewch arno, a defnyddiwch y tocyn i fynd a dod fel y mynnwch drwy'r dydd.

 

Tocynnau Aml-Daith - 10 siwrnai am bris 7

  • Os ydych yn defnyddio'r bws yn rheolaidd, gallwch brynu tocynnau am bris rhatach. Gofynnwch i'ch gyrrwr am fanylion y gostyngiadau ar y daith sy'n berthnasol i chi.
  • Dim ond ar Wasanaethau y mae Powys yn eu cynorthwyo mae'r tocynnau hyn ar gael.

 

Tocyn Teulu Powys

  • Ar gyfer 2 oedolyn a hyd at 3 o blant NEU 1 oedolyn a hyd at 4 o blant.
  • Mae tocyn unffordd a thocynnau dychwel misol i deuluoedd ar gael am yr un pris â dau docyn oedolyn.
  • Dim ond ar Wasanaethau y mae Powys yn eu cynorthwyo mae'r tocynnau hyn ar gael.
  • Mae tocynnau grŵp (sengl neu ddwyffordd) hefyd yn ddilys i unrhyw 5 o bobl sy'n teithio gyda'i gilydd.

Tocynnau Crwydro Undydd Powys i Deuluoedd

  • Teithio trwy'r dydd am £18
  • Ar gyfer 2 oedolyn a hyd at 3 o blant NEU 1 oedolyn a hyd at 4 o blant 
  • Dim ond ar Wasanaethau y mae Powys yn eu cynorthwyo mae'r tocynnau hyn ar gael
  • Mae tocynnau grŵp (sengl neu ddwyffordd) hefyd yn ddilys i unrhyw 5 o bobl sy'n teithio gyda'i gilydd.

 

Cynllun i bobl 16-21 oed

Gall pobl ifanc (16-21 oed yn gynwysedig) deithio ar gyfradd Plentyn os oes 'Fy Ngherdyn Teithio' Llywodraeth Cymru ganddynt.

Cerdyn Teithio Rhatach Cymru

  • Mae deiliaid Cerdyn Teithio Rhatach Cymru yn parhau i allu teithio am ddim
  • Gall deiliaid Cerdyn Teithio Rhatach o rannau eraill o'r DU brynu tocynnau Teithio Crwydro Powys am ddydd ar gyfradd plentyn.

Anfonwch gais am docyn i Lywodraeth Cymru.  

 

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma

 


 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu