Toglo gwelededd dewislen symudol

Prynu Tocynnau Crwydro, Tocynnau Teulu neu Docynnau Aml-Daith

 

Tocyn Crwydro Powys

Dim ond £9 i oedolyn a £6 i blentyn yw pris Tocyn Crwydro Powys. Gyda hwn, gallwch deithio ar fysys sy'n rhan o'r cynllun yn ddi-ben-draw trwy'r dydd. Gallwch dorri eich siwrnai pryd bynnag a lle bynnag y dymunwch.

Prynwch docyn ar y bws cyntaf yr ewch arno, a defnyddiwch y tocyn i fynd a dod fel y mynnwch drwy'r dydd.

 

Tocynnau Aml-Daith - 10 siwrnai am bris 7

  • Os ydych yn defnyddio'r bws yn rheolaidd, gallwch brynu tocynnau am bris rhatach. Gofynnwch i'ch gyrrwr am fanylion y gostyngiadau ar y daith sy'n berthnasol i chi.
  • Dim ond ar Wasanaethau y mae Powys yn eu cynorthwyo mae'r tocynnau hyn ar gael.

 

Tocyn Teulu Powys

  • Ar gyfer 2 oedolyn a hyd at 3 o blant NEU 1 oedolyn a hyd at 4 o blant.
  • Mae tocyn unffordd a thocynnau dychwel misol i deuluoedd ar gael am yr un pris â dau docyn oedolyn.
  • Dim ond ar Wasanaethau y mae Powys yn eu cynorthwyo mae'r tocynnau hyn ar gael.

 

Tocynnau Crwydro Undydd Powys i Deuluoedd

  • Teithio trwy'r dydd am £18
  • Ar gyfer 2 oedolyn a hyd at 3 o blant NEU 1 oedolyn a hyd at 4 o blant 
  • Dim ond ar Wasanaethau y mae Powys yn eu cynorthwyo mae'r tocynnau hyn ar gael

 

Cynllun i rai 16-18 oed

Mae Llywodraeth Cymru'n trefnu cynllun sy'n golygu bod unrhyw un rhwng 16 -18 oed sy'n byw yng Nghymru â hawl i deithio'n rhatach ar fws.

Mae'r cynllun yn newid.  Bydd traean i ffwrdd pris gwasanaethau i oedolion sydd â thocyn 'mytravelpass' o 1 Rhagfyr 2018.

Anfonwch gais am docyn i Lywodraeth Cymru.  

 

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma