Toglo gwelededd dewislen symudol

Talu Dirwy Parcio

Image of logo and link to WPPP
Mae Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru (PPCC) yn delio gyda thocynnau parcio ar ran Cyngor Sir Powys. Fodd bynnag, mae PPCC wedi cytuno ei pholisïau gyda'r Cyngor a bydd ein staff yn rhan o bob cam o'r broses.

Pa mor hir gymer hi i'r taliad gael ei dderbyn?

Bydd ceisiadau am dâl yn destun amserlenni awdurdodi a chlirio fel pob dull talu arall. Er bod taliad yn cael ei anfon at eich cyngor y diwrnod wedi i'r trafodiad gael ei wneud, fe gymer hyd at 4 diwrnod gwaith i'r taliad gael ei glirio'n llwyr.

Os oes gennych unrhyw ymholiad ynghylch statws taliad wedi'i anfon, cysylltwch â PPCC trwy eu gwefan.

 

Sut i dalu

  • Ar-lein - ewch i www.wppp.org.uk a dilyn y cyfarwyddiadau ar-lein.
  • Ffonio a defnyddio cerdyn debyd/credyd - ffoniwch y llinell daliadau awtomatig ar  0845 6032877.
  • Trwy'r post - anfonwch eich taliadau at:
    PPCC
    PO Box 273
    Sir Ddinbych  LL18 9EJ

    Gwnewch yn siwr bod sieciau/ archebion post/ yn daladwy (mewn sterling) i PPCC.

  • Gallwch dalu'n bersonsol mewn man Allpay (Swyddfa Post/Man Talu).

Sut bynnag y byddwch yn dewis talu,  bydd angen i chi roi'r cyfeirnod sydd ar yr Hysbysiad o Dâl Cosb.