Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Cynllun Triongl Melyn

Mae cynllun Triongl Melyn Cyngor Sir Powys yn rhoi'r cyfle i yrwyr ceir arddangos dull o bennu manylion meddygol gyrrwr yn gyflym mewn achos o argyfwng.

Mae'r triongl melyn yn gweithredu i dynnu sylw'r gwasanaethau brys at y ffaith bod y gyrrwr yn cario gwybodaeth bwysig, a dylid ei arddangos ar gornel chwith isaf tu mewn eich cerbyd modur. 

Dylid gosod y cerdyn sy'n cyd-fynd ag ef, gyda'ch holl fanylion wedi'i ysgrifennu arno, yn y bocs menig lle gall y gwasanaethau brys ddod o hyd iddo'n hawdd.  

Ar eich cerdyn, gallwch roi gwybodaeth am eich perthynas agosaf, unrhyw gyflyrau meddygol, neu alergeddau y gallech fod yn dioddef ohonynt, a meddyginiaethau rydych yn eu cymryd.

Os oes gennych ddiddordeb yn y cynllun hwn ac yr hoffech i driongl melyn gael ei anfon atoch chi neu aelod o'r teulu, ffoniwch neu e-bostiwch, gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod:

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu