Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae cymorth ar gael ar gyfer costau olew gwresogi sy'n codi.

Cynlluniau Diogelwch ar Feic

 

image of couple with bike
Fyddech chi'n hoffi seiclo mwy, ond yn teimlo nad oes digon o hyder gennych?

Hoffech chi ddechrau seiclo i'r gwaith ond yn teimlo'n ansicr sut i ymdopi mewn traffig?

Efallai mai ystyried seiclo mwy gyda'r plantos ydych chi?

Beth bynnag fo'ch anghenion, gall yr Uned Ddiogelwch ar y Ffordd gynnig sesiwn am ddim i chi gyda Hyfforddwr Seiclo o Safon Cenedlaethol, i'ch helpu i wella'ch ymwybyddiaeth wrth seiclo, neu i adeiladu eich hyder ar y ffordd. Gall ein hyfforddwyr gynnig help a chyfarwyddyd i chi mewn ffordd gynnes a chyfeillgar, beth bynnag fo'ch gallu.

Mae BikeAbility Wales  yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau hyfforddiant seiclo i bobl o bob oed a lefel gallu.

Ewch i wefan sustrans i gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch wrth seiclo i blant.

Rhannwch y dudalen hon