Cynlluniau Diogelwch ar gyfer Ceir
Cynllun Gyrwyr Aeddfed
Gyrra Ymlaen
Asesiad Gyrwyr Aeddfed
Mae Drive On yn gynllun asesu awr o hyd am ddim wedi ei anelu at helpu gyrwyr hŷn ym Mhowys i yrru'n fwy hyderus a diogel. Caiff asesiadau eu cyflawni gan Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy a gallwch ei wneud yn eich cerbyd eich hun.
Am ragor o wybodaeth am Gynllun Drive On Powys, cysylltwch Miranda Capecchi, Swyddog Prosiect Diogelwch ar y Ffyrdd: miranda.capecchi1@powys.gov.uk / 01598 826924 / 07483 412086
Cysylltwch ar y ffôn:
Rob Griffiths, Swyddog Ardal Diogelwch ar y Ffyrdd (De) 01597 826647
Jim Campbell, Swyddog Ardal Diogelwch ar y Ffyrdd (Gogledd) 01597 827754
Miranda Capecchi, Swyddog Prosiect Diogelwch ar y Ffyrdd 01597 826924 / 07483 412086
Tudalennau cyfryngau cymdeithasol
Powys Road Safety (@PowysRoadSafety) / Twitter
Cwrs Gloywi Theori Gyrwyr
Mae'r Cwrs Gloywi Theori Gyrwyr yn gwrs dwy awr ar-lein, wedi'i addysgu drwy Teams, gyda'r nod o helpu gyrwyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu sgiliau gyrru a bod yn yrwyr hyderus ac felly'n fwy diogel. Mae'n cynnwys pethau fel newidiadau i god y Priffyrdd a beth mae hyn yn ei olygu wrth fynd allan ar y ffordd; sut i fynd i'r afael â sefyllfaoedd penodol wrth yrru, fel pasio seiclwyr a marchogwyr yn ddiogel; y 5 Angheuol; cyflyrau meddygol a allai effeithio ar yrru, a'r gyfraith ynglŷn â hyn. Pa bynnag gwestiynau gyrru sydd gennych, mae'r Cwrs Gloywi Theori Gyrwyr wedi'i gynllunio i helpu i'w hateb.
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu'r Cwrs Gloywi Theori Gyrwyr ar-lein, cysylltwch â Miranda Capecchi, Swyddog Prosiect Diogelwch Ffyrdd ar:
- E-bost: miranda.capecchi1@powys.gov.uk
- Ffôn: 01597 826924
- Ffôn Symudol: 07483412086
5 Angheuol
Y 5 Angheuol yw'r pum prif beth sy'n achosi gwrthdrawiadau traffig ar y Ffyrdd. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cadw at reolau'r ffordd ond yn anffodus, mae lleiafrif bach yn dewis gosod eu hunain, eu teuluoedd a defnyddwyr ffordd diniwed, mewn perygl.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod: Stay Alive, Get To Know The Fatal 5 | Road Safety Wales
Seddi ceir i blant
Mae Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Powys yn gallu archwilio i weld a yw sedd car eich plentyn wedi'i gosod yn gywir - ac maen nhw'n gwneud hwn am ddim! Mae pob un o'n swyddogion wedi cwblhau hyfforddiant Ymwybyddiaeth Seddi Diogelwch Plant sydd wedi'i achredu gan y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH).
Cysylltwch â road.safety@powys.gov.uk i drefnu i ni wirio'ch sedd car plentyn.
Cais i archwilio sedd car plentyn (Word doc, 42 KB)
Gallwch gael arweinlyfr ar ddiogelwch eich plentyn yn y car a gweld a ydych yn rhoi'r plentyn yn y sedd gar gywir. Ewch i www.goodeggcarsafety.com i gael copi.
Seddau car plant a'r Gyfraith, ewch i visit Gov.uk
Hefyd, edrychwch ar "Carrying Children Safely" a gynhyrchwyd gan RoSPA (The Royal Society for the Prevention of Accidents)
Cysylltiadau
Mae'r manylion cysylltu hyn wedi'u bwriadu at ddibenion Addysg a Hyfforddiant Diogelwch ar y Ffyrdd yn unig
Eich sylwadau am ein tudalennau