Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae cymorth ar gael ar gyfer costau olew gwresogi sy'n codi.

Cynlluniau Diogelwch ar gyfer Ceir

Cynllun Gyrwyr Aeddfed

Gyrra Ymlaen

Asesiad Gyrwyr Aeddfed

Mae Drive On yn gynllun asesu awr o hyd am ddim wedi ei anelu at helpu gyrwyr hŷn ym Mhowys i yrru'n fwy hyderus a diogel. Caiff asesiadau eu cyflawni gan Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy a gallwch ei wneud yn eich cerbyd eich hun.  

Am ragor o wybodaeth am Gynllun Drive On Powys, cysylltwch Miranda Capecchi, Swyddog Prosiect Diogelwch ar y Ffyrdd: miranda.capecchi1@powys.gov.uk / 01598 826924 / 07483 412086

Cysylltwch ar y ffôn:

Rob Griffiths, Swyddog Ardal Diogelwch ar y Ffyrdd (De)                 01597 826647

Jim Campbell, Swyddog Ardal Diogelwch ar y Ffyrdd (Gogledd)        01597 827754         

Miranda Capecchi, Swyddog Prosiect Diogelwch ar y Ffyrdd              01597 826924 / 07483 412086

Tudalennau cyfryngau cymdeithasol

Powys Road Safety (@PowysRoadSafety) / Twitter

Powys Road Safety | Facebook

 

Cwrs Gloywi Theori Gyrwyr

Mae'r Cwrs Gloywi Theori Gyrwyr yn gwrs ar-lein dwy awr, sy'n agored i yrwyr o bob oed, ac yn cael ei addysgu ar-lein trwy Teams. 

Nod cwrs Gloywi Theori Gyrwyr yw helpu pob gyrrwr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu sgiliau gyrru, i fod yn yrwyr mwy hyderus, ac felly gyrwyr mwy diogel.

Mae cwrs Gloywi Theori Gyrwyr yn cynnwys pethau fel newidiadau a wneir i'r cod Priffyrdd a beth mae hyn yn ei olygu pan fyddwch allan ar y ffordd; y 5 Angheuol; sut i fynd i'r afael â sefyllfaoedd penodol pan fyddwch allan yn gyrru, fel pasio beicwyr a marchogion yn ddiogel; cyflyrau meddygol a sut y gallai'r rhain effeithio ar eich gyrru, a'r gyfraith mewn perthynas â hyn.

Pa bynnag gwestiynau gyrru sydd gennych, mae'r cwrs yma wedi'i gynllunio i helpu eu hateb.

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu'r Cwrs Gloywi Theori Gyrwyr ar-lein, cysylltwch â Miranda Capecchi, Swyddog Prosiect Diogelwch Ffyrdd ar:

 

5 Angheuol

Y 5 Angheuol yw'r pum prif beth sy'n achosi gwrthdrawiadau traffig ar y Ffyrdd. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cadw at reolau'r ffordd ond yn anffodus, mae lleiafrif bach yn dewis gosod eu hunain, eu teuluoedd a defnyddwyr ffordd diniwed, mewn perygl.  

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod: Stay Alive, Get To Know The Fatal 5 | Road Safety Wales

 

Seddi ceir i blant 

Mae Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Powys yn gallu archwilio i weld a yw sedd car eich plentyn wedi'i gosod yn gywir - ac maen nhw'n gwneud hwn am ddim! Mae pob un o'n swyddogion wedi cwblhau hyfforddiant Ymwybyddiaeth Seddi Diogelwch Plant sydd wedi'i achredu gan y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH).

Cais am wiriad diogelwch sedd car plentyn am ddim Cais am wiriad diogelwch sedd car plentyn am ddim

Gallwch gael arweinlyfr ar ddiogelwch eich plentyn yn y car a gweld a ydych yn rhoi'r plentyn yn y sedd gar gywir. Ewch i  www.goodeggcarsafety.com i gael copi. 

Seddau car plant a'r Gyfraith, ewch i visit Gov.uk

Hefyd, edrychwch ar "Our guide to choosing the right car seat" a gynhyrchwyd gan RoSPA (The Royal Society for the Prevention of Accidents)

 

Cysylltiadau

Mae'r manylion cysylltu hyn wedi'u bwriadu at ddibenion Addysg a Hyfforddiant Diogelwch ar y Ffyrdd yn unig

Eich sylwadau am ein tudalennau

 

Rhannwch y dudalen hon