Cynlluniau Diogelwch ar Feiciau Modur
Mae'n bosibl eich bod wedi gweld ein harwyddion 'Reidiwch yn ofalus'. Nid yn unig y mae'r rhain yn atgoffa pobl i fod yn ddiogel ar y ffordd ond hefyd ar gefn pob arwydd fe welwch sticer yn dangos y cyfeirnod grid. Os bydd argyfwng neu os byddwch wedi torri i lawr, gallwch ddweud wrth y gwasanaethau brys beth yw'r cyfeirnod grid er mwyn iddynt wybod yn union ble rydych chi. Mae'r cefn yr arwydd hefyd yn dangos rhif y ffordd er gwybodaeth.
Bikesafe
Menter sy'n cael ei harwain gan yr heddlu yw Bikesafe. Y nod yw ymgysylltu â beicwyr modur mewn amgylchedd heb unrhyw wrthdaro, mewn ymgais i gynyddu eu hymwybyddiaeth a chreu dymuniad diffuant i ddysgu sut i reidio'n ddiogel.
Rydym yn darparu lleoedd AM DDIM ar y cynllun i drigolion Powys.
I gael rhagor o wybodaeth, neu i ddod o hyd i'ch cwrs agosaf, ewch i www.bikesafe.co.uk
Ride On - cyflwyniad i feicio modur profiadol
Cynllun undydd ar gyfer pawb â thrwydded yrru lawn ar gyfer beic modur yw Ride On, gyda hyfforddiant gan Diwtoriaid Cymeradwy y grwp RoSPA lleol, Reidwyr Profiadol Sir Amwythig a Phowys (SAPAR). Byddant yn asesu eich sgiliau reidio ac yn rhoi awgrymiadau a chyngor unigol i chi er mwyn i chi gael mwy o fudd o'ch profiad o reidio.
Dyddiadau nesaf: TBC
Am ddim os ydych chi'n byw neu'n gweithio ym Mhowys.
Biker Down
Fyddech chi'n gwybod beth i'w wneud pe byddech chi'n dod ar draws damwain beic modur? Cwrs tair-awr am ddim yw Biker Down ac mae'n cynnwys:
- Sut i reoli sefyllfa'r ddamwain
- Ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf a thynnu'r helmed
- Chwalu'r mythau ynglyn ag amlygrwydd
Pan fyddwch wedi cwblhau'r cwrs, byddwch yn derbyn eich pecyn cymorth cyntaf eich hun i'w gario ar y beic, ynghyd â gwybodaeth ynglyn â sut i drin damwain beic modur os mai chi yw'r cynaf i ddod ar draws y ddamwain.
Dyddiadau nesaf - TBC
Os na allwch chi ddod i sesiwn Biker Down ar nos Iau, ac os oes grwp o 8 neu fwy ohonoch chi, rydym yn fodlon dod â Biker Down atoch chi, hyd yn oed ar benwythnos.
Ewch i www.facebook.com/BikerDownPowys i gael rhagor o wybodaeth.
Crash Cards
Mae Crash Card yn fenter ledled y DU a gyflwynwyd gan Glwb Beicio Modur yr Ambiwlans. Bydd eich manylion ar y cerdyn, sy'n cael ei ddodi y tu mewn i'ch helmed, a bydd smotyn bach gwyrdd ar gornel bellaf eich cysgod llygaid.
Os byddwch yn cael damwain, bydd y smotyn gwyrdd yn dweud wrth y gwasanaethau brys bod manylion personol yn cael eu storio yn eich helmed, a fydd yn helpu gydag unrhyw driniaeth frys a gewch.
Mae'r rhain Am Ddim i drigolion Powys
Ewch i wefan Crash Card UK i gael rhagor o fanylion.
CysylltiadauMae'r manylion cysylltu hyn wedi'u bwriadu at ddibenion Addysg a Hyfforddiant Diogelwch ar y Ffyrdd yn unig
Eich sylwadau am ein tudalennau