Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

System dim arian parod mewn ysgolion

Powys yw'r sir gyntaf yng Nghymru i gael ei holl ysgolion yn gweithredu system dalu heb arian parod ar gyfer prydau ysgol ac eitemau eraill. Mae Cyngor Sir Powys wedi cyflwyno taliadau electronig i gynnig dull talu cyfleus i rieni a gofalwyr ar gyfer ystod o weithgareddau gan gynnwys prydau bwyd, teithiau a gweithgareddau.

Mae'n ffordd hawdd a chyfleus i dalu.  Dyma rai o fanteision y system:

 

Y cwmni sy'n gyfrifol am y system hwn yw ParentPay Ltd.  Mae dwy ffordd i ychwanegu arian ar y cyfrif:

  1. Ar-lein ar www.parentpay.com (y tro cyntaf y byddwch yn sefydlu cyfrif eich plentyn, byddwch angen y llythyr a gawsoch gan yr ysgol sydd ag enw defnyddiwch a chyfrinair)
  2. Defnyddio cerdyn paypoint yn eich siopau lleol.  I weld lle mae eich man paypoint agosaf cliciwch ar:  www.paypoint.com (bydd rhaid archebu eich cerdyn o'r ysgol)

Os oes gennych ymholiad ynghylch tripiau ysgol a thaliadau eraill, cysylltwch â swyddfa'r ysgol.