Parent Pay - Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
C: Beth yw System Heb Ddefnyddio Arian Parod?
A: ateb sydd wedi'i lunio'n benodol i ddiwallu anghenion a galwadau'r ddarpariaeth arlwyo mewn ysgolion cyfoes yw'r System Arlwyo lle nad oes angen defnyddio Arian Parod. Mae Trust-e Cashless Solution yn caniatáu i ysgolion allu darparu gwasanaeth prydau bwyd cyflymach, mwy effeithlon a deniadol i fyfyrwyr a staff mewn ysgolion.
C: Sut y mae'r hawl i "brydau ysgol am ddim" yn gweithio?
A: Bydd pob hawl i bryd ysgol am ddim yn cael ei gofnodi ar y system cyn y diwrnod "byw".
Bydd y system Arlwyo heb ddefnyddio Arian Parod yn dyrannu symiau'r prydau ysgol am ddim yn awtomatig i'r cyfrifon priodol bob dydd. Bydd disgyblion â hawl i Brydau Ysgol am Ddim yn aros yn anhysbys bob amser gan fod modd defnyddio pob math o gyfrif yn yr un modd yn union, p'un a ydynt wedi talu am y prydau ai peidio.
C: Pa ddulliau sydd ar gael i roi credyd ar gyfrif?
A: Gellir rhoi credyd o unrhyw faint (lleiafswm trafodiad £10) ar gyfrif yn un o'r dulliau hyn. Pan fydd credyd wedi'i roi ar y cyfrif, ni fydd yn bosibl tynnu'r arian yn ôl ac mae'n rhaid ei gwario ar y gwasanaeth prydau ysgol.
Taliadau Ar-lein
Rydym wedi cyflwyno talu ar-lein mewn partneriaeth â'r Cashless Solution. I wneud taliad ar-lein ewch i www.ParentPay.com
Pay Point
Os nad ydych am ychwanegu arian i'r cyfrif ar-lein, byddwch yn derbyn cerdyn Pay Point, a gallwch ddefnyddio hwn i ychwanegu arian i gyfrif eich plentyn yn eich siopau Pay Point lleol. Bydd angen hyd at 48 awr i ychwanegu'r credyd at y cyfrif priodol wrth dalu trwy Pay Point. Gallwch ddarganfod eich siopau Pay Point lleol trwy fynd i'r wefan isod:
www.paypoint.co.uk/locator.aspx
Oes unrhyw un arall yn gallu defnyddio cyfrif fy mhlentyn?
A: Nac oes - oherwydd y mesurau diogelwch helaeth sydd ar y system, fydd yna neb yn gallu mynd i gyfrif eich plentyn. Bydd ffotograff yn cael ei roi i bob disgybl fel mesur diogelwch ategol.
C: Mae gan fy mhlentyn alergedd. A fydd hwn yn cael ei fonitro trwy'r System Heb Arian Parod?
A: Bydd - bydd pob cofnod o alergedd sydd wedi'i gofrestru gyda'r ysgol yn cael ei gofnodi ar y System Heb Arian Parod.
C: Alla' i bennu gofynion dietegol fy mhlentyn?
A: Bydd y system yn caniatáu i chi gofrestru unrhyw eitemau na all eich plentyn eu bwytau oherwydd anghenion dietegol neu resymau crefyddol. Rhaid i unrhyw eitem gael ei gadarnhau trwy lythyr gan y rhiant / gofalwr a'i anfon at swyddfa'r ysgol.
C: Beth sy'n digwydd i'r balans os ydw i eisoes wedi talu "o flaen llaw" am brydau ysgol?
A: Bydd y balans credyd presennol yn yr ysgol yn cael ei drosglwyddo i'r system newydd heb arian parod cyn y diwrnod y bydd yn mynd yn fyw.
C: Beth sy'n digwydd os nad yw cyfrif fy mhlentyn mewn credyd?
A: Gellir defnyddio proses "benthyciad" wrth y peiriant talu a bydd hyn yn caniatáu talu am bryd o gyfrif gorddrafft awtomatig. Bydd cyfyngiad o £5, a bydd nodiadau atgoffa'n cael eu hanfon trwy e-bost neu neges destun trwy ParentPay.