Enghreifftiau o bethau y gallwn godi tal amdanynt
Gwaith y mae angen ei wneud er mwyn gallu Ailosod Tai Gwag (Segur)
Pan ddaw tenantiaeth i ben, mae'n bosibl y bydd angen i'r cyngor drwsio eitemau yr oedd y tenant yn gyfrifol amdanynt, neu sydd wedi dirywio oherwydd esgeulustod y tenant.
Bydd tenantiaid yn cael cyfle i gywiro unrhyw broblemau cyn diwedd y denantiaeth.
Costau yn dilyn Argyfwng, e.e. Tân neu Lifogydd
Argymhellir bod pob tenant yn prynu polisi yswiriant cynnwys y cartref.
Costau y mae'n rhaid i'r Cyngor eu talu lle nad yw'r tenant neu'r cwsmer wedi'i yswirio'n ddigonol ar gyfer tân/llifogydd neu argyfwng arall.
Tenant yn Difrodi, Cam-drin neu Esgeuluso Eiddo
Pan fyddwn yn cael ar ddeall bod tenant cyfredol yn gyfrifol am ddifrod naill ai i'w eiddo ei hun neu ddifrod i rannau cymunedol, er enghraifft mewn bloc o fflatiau, yna bydd Staff priodol y Gwasanaeth Tai yn trin y mater i ddechrau fel achos o dorri amodau'r denantiaeth, a byddant yn hysbysu'r tenant y dylai drwsio'r difrod ar ei gost ei hun a hynny o fewn amser penodedig.
Os nad yw'r tenant yn cydymffurfio â chais penodol, yna bydd y swyddog yn ystyried a ddylai'r Cyngor wneud y gwaith a chodi tâl ar y tenant amdano.
Efallai y bydd angen gwneud atgyweiriadau ar unwaith, er enghraifft os bydd difrod pellach yn cael ei achosi i'r eiddo, os yw Iechyd a Diogelwch y tenant neu eraill mewn perygl neu os achosir difrod i rannau cyffredin o'r adeilad a bod tenantiaid/cleientiaid yn cael eu heffeithio os nad yw'r gwaith atgyweirio yn cael ei drefnu.
Mae'r Llawlyfr Tenantiaid (PDF) [4MB] yn cyfeirio at y mesurau y gall y Cyngor eu dilyn mewn achos o dorri amodau'r denantiaeth.
Trosglwyddo a Chydgyfnewid
Bydd y Cyngor yn codi tâl am unrhyw gostau sy'n ei wynebu cyn trosglwyddo neu gydgyfnewid eiddo, yn enwedig os bu difrodi bwriadol neu esgeulustod gan y tenant(iaid) neu rywun ar ei aelwyd/eu haelwyd. Gallai'r Cyngor godi tâl ar bob parti mewn achos o gydgyfnewid.
Cais am waith atgyweirio ac ati
Bydd y Cyngor yn ystyried codi tâl hefyd am geisiadau nad ydynt yn rhan o'i gyfrifoldeb, e.e. darparu allweddi newydd os collir y rhai gwreiddiol, newid cloeon, costau sicrhau mynediad i'r eiddo ac yn y blaen. Mae tasgau fel hyn yn aml yn waith argyfwng, a gellir sefydlu cyfrif ar unwaith i godi tâl amdanynt.
Costau Symud Sbwriel/Gerddi Blêr
Os yw tenant/cleient yn euog o daflu sbwriel yn anghyfreithlon, neu os oes angen clirio'u gardd, yna bydd Staff priodol y Gwasanaeth Tai yn y lle cyntaf yn trin y mater fel achos o dorri amodau'r denantiaeth neu'r cytundeb. Fodd bynnag, os yw'r Swyddog yn penderfynu ei fod yn fwy ymarferol gwneud y gwaith angenrheidiol a chodi tâl ar y tenant/cleient am wneud hynny, yna mae'n bosibl y bydd yn gwneud hynny.
Codir tâl ar aelodau o'r cyhoedd am daflu sbwriel ar dir y Cyngor i'w digolledu am y costau o glirio'r tir.
Difrod Bwriadol/Fandaliaeth
Os ceir bod tenant, ymwelydd / perthynas i denant / cleient neu aelod o'r cyhoedd wedi achosi difrod bwriadol i eiddo Cyngor Sir Powys, yna yn y lle cyntaf, bydd Staff y Gwasanaeth Tai yn dilyn trywydd y mater trwy'r heddlu.
Gellir gwneud cais am iawndal trwy'r Llysoedd, a bydd hwn yn amlinellu'r gost gwirioneddol i atgyweirio'r ddifrod a'r costau a gafodd yr awdurdod wrth drefnu'r gwaith atgyweirio.