Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhenti a Bondiau

F aint o rent alla' i godi?  

Chi sy'n penderfynu faint o rent i'w godi ond fe ddylai fod yn rhesymol, yn seiliedig ar faint a chyflwr yr eiddo. Cofiwch os nad yw'r rhent yn debyg i'r rhenti sy'n cael eu codi am eiddo tebyg yn yr un ardal, mae'n anhebygol y llwyddwch i ddenu tenant.

Beth yw Lwfans Tai Lleol?

Image of a house made of money

Mae trefniadau Lwfans Tai Lleol yn gosod uchafswm y Budd-dal Tai y gellir ei ddyfarnu i aelwyd ar sail maint yr eiddo (h.y. nifer yr ystafelloedd wely) angenrheidiol. Bydd y cyfraddau hyn yn cael eu gosod yn lleol a bydd awdurdodau lleol yn eu cyhoeddi. Os yw swm y rhent a godwch yn uwch na hawliad lwfans tai lleol yr aelwyd sy'n rhentu eich eiddo, nhw fydd yn gyfrifol am dalu'r gwahaniaeth.

A fydd Budd-dal Tai yn cael ei dalu'n uniongyrchol i mi? 

Yn gyffredinol, bydd Budd-dal Tai yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'r tenant sydd wedyn yn gyfrifol am dalu'r rhent. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft os oes llawer o ôl-ddyledion rhent i'w talu neu os yw'r tenant yn debygol o'i chael hi'n anodd rheoli ei arian, gellir talu'r arian yn uniongyrchol i'r landlord. Ewch i wefan Cyngor Sir Powys i gael rhagor o wybodaeth.

Alla' i gadw'r bond fy hun nes i'r tenant symud ymlaen?

Ers 6 Ebrill 2007 mae wedi bod yn ofyniad cyfreithiol i bob blaendal y mae landlord neu asiant gosod tai yn ei dderbyn (ar gyfer rhent hyd at £25,000 y flwyddyn) am denantiaethau byrddaliad sicr gael ei ddiogelu gan gynllun amddiffyn blaendaliadau tenantiaeth. Mae tri chynllun ar gael: mae dau yn seiliedig ar yswiriant, sy'n caniatáu i'r landlord gadw'r blaendal os yw'n talu premiwm i'r cynllun ac mae'r trydydd cynllun yn gynllun lle cedwir y bond ar ran y landlord (am ddim) hyd ddiwedd y tenantiaeth). 

Cofiwch: Rhaid i chi roi manylion i'r tenant cyn pen 14 diwrnod i ddweud sut y cafodd ei flaendal ei ddiogelu. Gallu methu â diogelu bond/blaendal arwain at achos llys a gofyniad i ad-dalu'r bond, ynghyd â dirwy o hyd at 3 gwaith swm y bond. Gall hefyd olygu na fyddwch yn gallu meddiannu'r eiddo ar ddiwedd y denantiaeth. 

I  gael rhagor o wybodaeth am ddiogelu blaendaliadau tenantiaid, ewch i gov.uk.

Beth os yw fy nhent yn ei chael yn anodd ymdopi?

Mae modd darparu cymorth i bobl sy'n cael anhawster gyda materion sy'n ymwneud â thenantiaeth. Dylid cynghori tenantiaid sydd yn y sefyllfa yma i gysylltu â Gwasanaeth Tai Cyngor Sir Powys ar 01597 827464.

Neu, gallai'r Adran Dai eich cyfeirio at sefydliadau perthnasol eraill fel Shelter (Ffôn: 0845 075 5005) a Chyngor ar Bopeth (Ffôn: 08444 77 20 20). Gellir darparu cymorth a chyngor ynghylch amrywiaeth o bynciau, megis cyllidebu/dyledion, hawlio budd-daliadau ac iechyd meddwl/cwnsela.

Cynllun Bond Pobl

Landlordiaid - oes gennych chi denant sydd angen bond/blaendal?

Efallai y bydd Cynllun Bond Pobl yn gallu'ch cynorthwyo â gwarant bond.

Rydyn ni'n gweithredu yn y siroedd dilynol, cysylltwch â ni os ho_ech chi gael rhagor o wybodaeth:

Caer_li 01633 225092

Sir Gaerfyrddin 01554 899327

Sir Fynwy 01633 225092

Casnewydd 01633 225092

Powys 01597 829373

Torfaen 01633 225092

Wrthi'n cynorthwyo i atal digartrefedd trwy ddarparu cymorth, cyngor a chymorth ariannol ynghylch tenantiaeth*

* Mae cymorth ariannol wedi'i seilio ar fforddiadwyedd ac amgylchiadau, trwy ddarparu blaendal/bond denantiaid cymwys

 

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau