Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwyddedau lletya anifeiliaid / gwarchod cwn

image of dog
Os rydych yn rhedeg busnes sy'n cynnig lle i gwn a chathod pobl eraill aros, mae'n rhaid i chi gael trwydded gennym ni.

Beth fyddwn yn ei wirio

Cyn y byddwn yn gallu rhoi trwydded i chi, bydd angen i ni wneud yn siwr:

  • y bydd yr anifeiliaid yn cael eu cadw mewn lle addas sydd wedi'i wneud yn dda, yn ddigon o faint, wedi'i awyru'n dda, gyda thymheredd addas ac yn ddigon golau. 
  • na fydd gormod o anifeiliaid yn cael eu cadw gyda'i gilydd
  • bydd bwyd, diod a deunydd gwely priodol ar gael, a bydd yr anifeiliaid yn cael eu hymarfer a'u hymweld yn rheolaidd.
  • eich bod yn deall sut i atal afiechydon rhag lledaenu ymhlith yr anifeiliaid a bod gennych le i roi anfeiliaid sy'n sâl lle gellir eu gadw i ffwrdd o anifeiliaid iach.
  • bydd yr anifeiliaid yn cael eu gwarchod os oes achos o dân neu argyfyngau eraill.
  • bod cofrestr yn gael ei gadw - yn rhoi disgrifiadau o'r anifeiliaid, y dyddiad y maen nhw'n cyrraedd ac yn gadael a manylion eu perchnogion - a bod y gofrestr ar gael i'w archwilio ar unrhyw bryd.

Gwaharddiadau

Ni allwch wneud cais am drwydded os ydych wedi eich gwahardd rhag:

  • cadw sefydliad lletya anifeiliaid
  • cadw siop anifeiliaid anwes dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951
  • cadw anifeiliaid dan Ddeddf Gwarchod Anifeiliaid (Diwygiad) 1954
  • unrhyw faterion yn gysylltiedig â chadw anifeiliaid dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006
  • berchen ar, cadw, bod yn gysylltiedig â delio mewn anifeiliaid neu gludo anifeiliaid dan Ddeddf Lles Anifeiliaid (yr Alban) 2006

Gwneud cais neu adnewyddu

Llenwch gais ar-lein trwy ddefnyddio'r dolenni isod.  Bydd y dolenni yn eich trosglwyddo i wefan arall y llywodraeth.

Gwneud cais am drwydded sefydliad lletya anifeiliaid

Newid / Adnewyddu trwydded sefydliad lletya anifeiliaid

Gallwch hefyd gael ffurflen gais oddi wrthym drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon.  A fyddech gystal â llenwi'r ffurflen a'i dychwelyd i'r swyddfa trwyddedu leol ynghyd â'r ffi. 

Bydd rhaid i chi dalu ffi ar gyfer y drwydded hon.

Ffioedd a thaliadau ar gyfer trwyddedau

Apeliadau

Os nad ydych yn cytuno â'n penderfyniad, gallwch apelio i'ch llys Ynadon.