Trwyddedau Meysydd Carafanau Gwyliau/Teithiol
Rydym yn rhoi trwyddedau i holl feysydd carafanau ym Mhowys cyn belled â bod gan yr ymgeisydd ganiatâd cynllunio dilys. Rydym yn annog safonau da ar ein meysydd carafanau fel bod ein cymunedau yn ogystal â thwristiaid sy'n ymweld â'r ardal yn cael pleser a mwynhad ohonynt.
Os yw'r safle yn elwa ar y ddau carafannau preswyl / cartrefi symudol a gwyliau neu teithiol carafannau yna bydd y safle yn ei gwneud yn ofynnol Trwydded Hafan Symudol ychwanegol i dalu am y rhan hon o'r safle.
Amodau'r Drwydded
Rydym yn gosod amodau ar drwydded, ac os nad yw amodau trwydded y maes yn cael eu diwallu, gallwn gymryd camau gorfodi. Byddwn yn rhoi amser rhesymol i chi ddatrys unrhyw broblemau.
Nod yr amodau ar drwydded maes carafanau yw amddiffyn iechyd, diogelwch a lles pobl sy'n aros mewn carafanau ac mae'n cynnwys materion fel draenio, pellter rhwng carafanau ac ati.
Ni fyddwn yn rhoi trwydded i chi os ydych wedi colli eich trwydded o fewn tair blynedd o'r cais presennol.
Sut i wneud cais
Rydym yn gosod amodau ar drwydded, ac os nad yw amodau trwydded y maes yn cael eu diwallu, gallwn gymryd camau gorfodi. Byddwn yn rhoi amser rhesymol i chi ddatrys unrhyw broblemau.
Nod yr amodau ar drwydded maes carafanau yw amddiffyn iechyd, diogelwch a lles pobl sy'n aros mewn carafanau ac mae'n cynnwys materion fel draenio, pellter rhwng carafanau ac ati.
Ni fyddwn yn rhoi trwydded i chi os ydych wedi colli eich trwydded o fewn tair blynedd o'r cais presennol.
Apeliadau
Os ydych yn anfodlon ag unrhyw rai o'n penderfyniadau, cofiwch gysylltu â ni'n gyntaf.
Os ydych heb gael caniatâd i newid amod gallwch apelio i'r Llys Ynadon lleol. Mae'n rhaid gwneud yr apêl o fewn 28 diwrnod o'r hysbysiad ysgrifenedig eich bod wedi cael eich gwrthod ac mae'n rhaid rhoi gwybod i'r cyngor lleol am yr apêl.
Os ydych am apelio yn erbyn amod sydd ynghlwm â thrwydded, gallwch apelio i'r Llys Ynadon lleol. Rhaid gwneud yr apêl o fewn 28 diwrnod o gael y drwydded.
Gallwn newid yr amodau unrhyw bryd, ond bydd yn rhaid rhoi cyfle i ddeilydd y drwydded i wrthwynebu'r newidiadau sy'n cael eu cynnig. Os ydych yn anghytuno â'r newidiadau gallwch gyflwyno apêl i'r Llys Ynadon lleol. Rhaid apelio o fewn 28 diwrnod o gael yr hysbysiad ysgrifenedig o'r newid, a rhaid rhoi gwybod i'r cyngor lleol am yr apêl.
Cwynion defnyddwyr
Rydym yn ymateb i gwynion am garafanau a meysydd carafanau anfoddhaol ac yn cynnal archwiliadau rheolaidd o feysydd carafanau er mwyn gwneud yn siwr eu bod yn cwrdd ag amodau trwydded y safle.
Os oes gennych chi gwyn am faes carafanau cysylltwch â'ch swyddfa leol trwy ddefnyddio'r manylion ar ochr dde'r dudalen hon.
Ffurflenni cais
Llenwch gais ar-lein trwy ddefnyddio'r dolenni isod. Bydd y dolenni yn eich trosglwyddo i wefan arall y llywodraeth.
Gwneud cais i redeg maes carafanau
Rhoi gwybod i ni am newid i'ch maes carafanau
Gallwch gael ffurflen gais oddi wrthym ni trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon. Llenwch y ffurflen a'i dychwelyd i'r swyddfa trwyddedu ardal.
Ni fydd ffi yn cael ei godi ar gyfer y drwydded hon.
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma