Rheolau parciau preswyl
Dan Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cartrefi Symudol 2013), mae gofyn cadw a chyhoeddi cofrestr ddiweddar o reolau cartrefi mewn parciau.
Mae rheolau safle ar gyfer safleoedd cartrefi symudol preswyl yn sicrhau cydlyniant cymunedol a rheolaeth dda o'r safle, tra'n sicrhau hefyd fod perchnogion cartrefi symudol yn deall y rheolau sy'n berthnasol iddynt hwy yn llwyr.
Mae Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014 yn manylu ar y weithdrefn y mae'n rhaid i berchennog safle ei defnyddio wrth wneud, amrywio neu ddileu rheol safle. Maent yn sefydlu proses i ymgynghori ar newidiadau arfaethedig, yn cynnig hawliau apelio ac yn gofyn i awdurdodau lleol gadw a chyhoeddi cofrestr o reolau safle ar gyfer safleoedd yn eu hardal.
Gorolwg;
- Pan fydd perchennog safle yn cynnal arolwg o reolau presennol neu'n dymuno gwneud unrhyw reolau newydd, rhaid iddynt ymgynghori'n gyntaf gyda'r holl berchnogion cartrefi symudol ac unrhyw gymdeithas trigolion perthnasol (CTP). Rhaid i'r ymgynghoriad fod yn agored i ymatebion am o leiaf 28 diwrnod. O fewn 21 diwrnod o ddiwedd yr ymgynghoriad, rhaid i berchennog y safle anfon Dogfen Ymateb i'r Ymgynghoriad at yr holl berchnogion cartrefi yn rhoi gwybod iddynt am ganlyniad yr ymgynghoriad a pha reolau safle sydd i'w mabwysiadu.
- Os yw perchennog cartref symudol yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad perchennog y safle i fabwysiadu, dileu neu amrywio rheol safle, rhaid iddynt wneud cais i Dribiwnlys Eiddo Preswyl (TEP), o fewn 21 diwrnod o dderbyn y ddogfen ymateb i'r ymgynghoriad.
- Unwaith y bydd y rheolau newydd wedi'u cytuno, rhaid i berchennog y safle adneuo'r rheolau safle newydd gyda'r awdurdod lleol heb fod yn hwyrach na 42 diwrnod wedi cyflwyno'r ddogfen ymateb i'r ymgynghoriad. Os oes apêl wedi'i chyflwyno, ni all perchennog y safle adneuo'r rheolau safle tan y bydd yr apêl wedi'i phenderfynu. Unwaith y bydd yr apêl wedi'i phennu, mae gan berchennog y safle 14 diwrnod i adneuo'r rheolau safle gyda'r awdurdod lleol, oni bai y bydd y tribiwnlys yn pennu fel arall.
Isod mae enwau'r parciau preswyl ym Mhowys, rheolau'r safleoedd hynny a'r dyddiad y derbyniwyd y rheolau:
- Llewellyn Park, Cilmeri / 12/08/2015
- Anchorage Park, Bronllys / 11/09/2015
- Middletown Park / 14/09/2015
- Borders Hideaway, Cleirwy / 16/09/2015
- Riverbend Park, Llangadfan / 16/09/2015
- Rockbridge Park / 22/09/2015
- Sunnyhaven Park / 26/11/2015
- Norton Manor Estate / 15/12/2015
- Caerwnon Park / 21/01/2016
- Tavern Park, Forden / 22/01/2016
- Crossways Residential Park, Howey / 13/06/2017