Cyflogaeth a Ganiateir ac a Waherddir ar gyfer Plant (Trwyddedau Cyflogaeth Plant)
Cyflogaeth sy'n Waharddedig i Blant
Ni plant o unrhyw oed weithio yn y meysydd canlynol:-
- mewn sinema, theatr, disgo, neuadd ddawns neu glwb nos, ac eithrio mewn cysylltiad â pherfformiad gan blant.
- gwerthu neu ddosbarthu alcohol, ac eithrio mewn cynwysyddion sydd wedi'u selio.
- darparu llaeth.
- dosbarthu olew tanwydd.
- mewn cegin fasnachol.
- casglu neu ddidoli gwastraff.
- mewn unrhyw waith mwy na 3 metr uwchben y ddaear/lefel y llawr.
- mewn gwaith lle mae modd dod i gysylltiad â chyfryngau ffisegol, biolegol neu gemegol niweidiol.
- casglu arian neu ganfasio o ddrws i ddrws ac eithrio dan oruchwyliaeth oedolyn.
- mewn gwaith lle mae modd dod i gysylltiad â deunyddiau oedolion neu sefyllfaoedd sydd am y rheswm yma yn anaddas mewn ffyrdd eraill i blant weithio ynddynt.
- gwerthu dros y ffôn.
- mewn unrhyw ladd-dy neu'r rhan honno o siop cigydd neu safle arall lle lleddir anifeiliaid, neu lle bydd bwtsiera a pharatoi celanedd anifeiliaid i'w gwerthu.
- fel gweinydd neu gynorthwyydd mewn ffair neu arced neu unrhyw safle arall lle ceir peiriannau awtomatig gemau neu hap neu sgil neu ddyfeisiau tebyg er adloniant y cyhoedd.
- yn gyfrifol am ofal personol trigolion unrhyw gartref gofal preswyl neu gartref nyrsio.
Nid yw hyn yn atal plant rhag cymryd rhan mewn perfformiad dan ddarpariaethau trwydded a gyflwynir yn unol â Deddf Plant a Phobl Ifanc 1963 a Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015.
Cyflogaeth a ganiateir ar gyfer plant 14 neu hyn
Caniateir gwaith ysgafn yn unig ar gyfer plant 14 neu hyn
Cyflogaeth a ganiateir ar gyfer plant 13 oed
Dim ond yn y categorïau isod y caniateir i blentyn 13 oed wneud gwaith ysgafn:
- gwaith amaethyddol neu arddwriaethol
- dosbarthu papurau newydd, cylchgronau a deunydd arall wedi'i argraffu
- gwaith siop, gan gynnwys stacio silffoedd
- siopau trin gwallt
- gwaith swyddfa
- golchi ceir â llaw ar safle preswyl preifat
- mewn caffi neu fwyty
- mewn stablau ceffylau
- gwaith glanhau mewn gwestai a sefydliadau eraill sy'n cynnig llety
Follow us on: Contacts
Feedback about a page here