Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trwyddedau tân gwyllt a ffrwydron

fireworks
Os ydych yn gwneud neu'n storio ffrwydron, mae angen i chi naill ai gofrestru neu wneud cais am drwydded, gan ddibynnu ar faint o ffrwydron sydd ynghlwm â hyn.

Cofrestru neu drwydded fesul pwysau

O ganlyniad i gofrestru mae'n bosibl storio llai o ffrwydron (hyd at 250 cilogram, yn dibynnu ar y math o ffrwydriad).  Pwysau net y ffrwydron y tu mewn i'r eitem (NEQ) yw'r pwysau hwn, ac nid pwysau gros yr eitem ei hunan.

Bydd angen trwydded ar gyfer ffrwydron dros 250 cilogram, mathau mwy peryglus o ffrwydron a phob proses gwneuthuro.  Byddwn yn rhoi trwyddedau ar gyfer storio'n unig - bydd trwyddedau ar gyfer gwneuthuro gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. 

Mae angen tystysgrif ffrwydron ar gyfer rhai deunyddiau, er enghraifft ffrwydron chwythu neu bowdr du.  Gallwch gael y dystysgrif hon gan Heddlu Dyfed Powys..

Meintiau o ffrwydron nad oes angen eu cofrestru

Os ydych yn storio llai na 5 cilogram o ffrwydron sydd ddim angen tystysgrif ffrwydron ar eu cyfer neu lai na 15 cilogram o ffrwydron, bwledi a chetris, yna does dim angen i chi gael eich cofrestru na'ch trwyddedu. Mae rhai eithriadau o ran storio tân gwyllt am gyfnod byr; cysylltwch â Safonau Masnach am ragor o wybodaeth.

Storio rhwng 5 cilogram a 250 cilogram

Os ydych am storio rhwng 5 cilogram a 250 cilogram (NEQ) o ffrwydron, mae angen tystysgrif cofrestru ffrwydron arnoch.

Storio dros 250 cilogram

Os ydych am gadw rhwng 250 cilogram a 2,000 cilogram (NEQ), byddwch angen trwydded storio ffrwydron. Os ydych am storio dros 2000 cilogram, bydd angen i chi gysylltu â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Mae ffrwydron sy'n cael eu storio mewn chwareli ac eiddo tebyg yn cael eu rheoli gan yr heddlu.


Sut a phryd i wneud cais

Mae cofrestriadau a thrwyddedau yn ddilys am hyd at 5 mlynedd; rhaid talu ffi yn dibynnu ar faint o ffrwydron sy'n cael eu storio. Mae gwahanol ffioedd yn berthnasol i adnewyddiadau ac amrywiadau neu drosglwyddiadau.

Byddwch hefyd angen gwneud cais am drwydded tân gwyllt ar wahân (ychwanegol) os ydych yn bwriadu cyflenwi tân gwyllt y tu allan i'r cyfnodau canlynol:

  1. ar ddiwrnod cyntaf y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a thri diwrnod yn union cyn ei gynnal;
  2. ar ddiwrnod yr Wyl Diwali a thri diwrnod yn union cyn ei chynnal;
  3. rhwng 15 Hydref a 10 Tachwedd; neu rhwng 26 Rhagfyr a 31 Rhagfyr.

Mae trwydded tân gwyllt yn ddilys am flwyddyn.

Ffurflenni cais

Gallwch gael ffurflen gais oddi wrthym ni trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon.  Llenwch y ffurflen a'i dychwelyd gyda'r ffi i'r swyddfa trwyddedu ardal. 

Byddwn yn codi ffi am drwydded neu gofrestriad.

Ffioedd a thaliadau am drwyddedau

 

Cysylltiadau

  • Ebost: trading.standards@powys.gov.uk
  • Ffôn: 0345 6027030 
  • Manylion cyswllt ar gyfer Gogledd Powys: Safonau Masnach - Cyngor Busnes, Neuadd Ffordd Hafren, Y Trallwng, Powys, SY21 7AS
  • Manylion cyswllt ar gyfer De Powys: Safonau Masnach - Cyngor Busnes, Neuadd Brycheiniog, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys, LD3 7HR
  • Manylion cyswllt ar gyfer Canol Powys: Safonau Masnach - Cyngor Busnes, Y Gwalia, Ffordd Ieithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Eich sylwadau am ein tudalennau