Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trwyddedau a Hawlebau - Tai Amlfeddiannaeth

House
 Mae Mae Deddf Tai 2004 yn gosod dyletswydd i drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth.  Mae'r Ddeddf yn rhoi diffiniad manwl o Dai Amlfeddiannaeth ac yn nodi safonau rheoli'r math hyn o eiddo.  Ar 6 Ebrill 2006 daeth mesurau trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth i rym gan ddisodli hen gynlluniau cofrestru Tai Amlfeddiannaeth.

Beth yw Tai mewn Amlfeddiannaeth?

Os ydych yn landlord ac yn gosod eiddo, neu os ydych yn denant ac yn byw mewn eiddo sy'n un o'r mathau a nodir isod, mae'n dy mewn amlfeddiannaeth:

  • Ty neu fflat cyfan sy'n cael ei osod i 3 neu ragor o denantiaid sy'n ffurfio 2 neu ragor o aelwydydd ac sy'n rhannu cegin, ystafell ymolchi neu doiled.
  • Ty sydd wedi cael ei drawsnewid yn llwyr yn fflatiau un ystafell neu lety hunangynhwysol arall ac sy'n cael ei osod i 3 neu ragor o denantiaid sy'n ffurfio 2 neu ragor o aelwydydd ac sy'n rhannu cegin, ystafell ymolchi neu gyfleusterau toiled.
  • Ty sydd wedi cael ei drawsnewid sy'n cynnwys un neu ragor o fflatiau nad ydynt yn hollol hunangynhwysol (h.y. nid yw'r fflat yn cynnwys cegin, ystafell ymolchi a thoiled oddi mewn iddo) ac sydd wedi'i feddiannu gan 3 neu ragor o denantiaid sy'n ffurfio dau neu ragor o aelwydydd.
  • Adeilad sydd wedi'i drawsnewid yn llwyr yn fflatiau hunangynhwysol os nad oedd y trawsnewid wedi diwallu safonau Rheoliadau Adeiladu 1991 a bod mwy na thraen o'r fflatiau'n cael eu gosod ar denantiaethau tymor byr.
  • Er mwyn bod yn dy mewn amlfeddiannaeth, dylai'r eiddo gael ei ddefnyddio fel unig neu brif breswylfa a dylid ei ddefnyddio gan denantiaid y ty yn unig neu'n bennaf. Bydd eiddo a roddir ar osod i fyfyrwyr a gweithwyr mudol yn cael eu trin fel eu hunig neu brif breswylfa a bydd yr un rheol yn berthnasol i eiddo a ddefnyddir fel llochesi domestig.

 

Trwyddedu Tai mewn Amlfeddiannaeth

Rhaid i landlordiaid sy'n berchen ar rai mathau o Dai Aml Ddeiliadaeth wneud cais am drwydded

Nod y cynllun trwyddedu yw codi safonau rheoli ac amwynderau o fewn Tai Amlfeddiannaeth megis fflatiau un ystafell a thai a rennir.  Yn aml iawn, mae'r math hyn o eiddo'n cael eu rheoli'n wael gyda rhagofalon tân ac amwynderau o safon isel o'u cymharu ag eiddo preifat sydd ar rent.

Awdurdodau Lleol sy'n gyfrifol am drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth yn ôl gofynion Deddf Tai 2004, ac ym Mhowys, cyfrifoldeb gwasanaeth Tai'r Sector Preifat yw archwilio a thrwyddedau eiddo o'r fath.

Byddwn fel arfer yn cyhoeddi trwydded:

  • os yw'r ty'n addas, neu fod modd ei addasu ar gyfer amlfeddiannaeth.
  • os yw'r ymgeisydd yn addas ac yn gymwys, ac yn unigolyn mwyaf addas i feddu ar drwydded. 
  • os oes gan y rheolwr arfaethedig reolaeth dros y ty, a'i fod yn unigolyn addas a chymwys i fod yn rheolwr.
  • os yw'r trefniadau rheoli'n foddhaol. 

Os na fyddwch wedi clywed gan Gyngor Sir Powys o fewn 28 diwrnod calendr o gyflwyno eich cais, gallwch gymryd yn ganiataol ein bod wedi cymeradwyo eich cais. 

 

Apeliadau

Os ydych yn anhapus am ein penderfyniad, cysylltwch â ni i'w drafod.

Os ydych yn parhau i fod yn anhapus, gallwch apelio i dribiwnlys eiddo preswyl. Gallwch hefyd apelio i dribiwnlys eiddo preswyl am unrhyw amodau sydd ynghlwm â thrwydded neu unrhyw benderfyniad i amrywio neu ddiddymu trwydded.

Dylid cyflwyno unrhyw apêl o fewn 28 diwrnod o wneud y penderfyniad.

Cwynion gan ddefnyddwyr a phobl eraill sydd â diddordeb

Os ydych yn dymuno apelio yn erbyn cyflwyno trwydded  i rywun arall, gallwch wneud hynny i dribiwnlys eiddo preswyl o fewn 28 diwrnod o wneud y penderfyniad.

 

Diogelwch Tân

Bydd pob categori o Dai mewn Amlfeddiannaeth angen system canfod tân a/neu ragofalon strwythurol. Mae Cyngor Sir Powys yn gweithio ochr yn ochr â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ac yn cynnig gwasanaeth Archwiliadau Cyn-Trwyddedu i landlordiaid/perchnogion sy'n ystyried gweithredu Ty mewn Amlfeddiannaeth. Yn dilyn yr archwiliad hwn, bydd Amserlen Waith yn cael ei chyflwyno sy'n manylu ar y gofynion os byddai'r eiddo'n cael ei drwyddedu fel ty mewn amlfeddiannaeth a byddai hyn yn cynnwys gwelliannau diogelwch tân os byddai hynny'n berthnasol.

 

Y System Graddio Iechyd a Diogelwch Tai (HHSRS)

Bydd y System Graddio Iechyd a Diogelwch Tai yn dal i effeithio arnoch chi, hyd yn oed pan nad yw eich heiddo o fewn cylch cyfrifoldeb y drwydded hon. Mae'r system hon yn cymryd lle'r Safon Addasrwydd. Hwn yw'r dull newydd a ddefnyddiwn o ystyried y peryglon i iechyd a diogelwch mewn tai a dynodi peryglon. Mae 29 perygl i gyd. Os oes peryglon sylweddol, gallwn gyflwyno Rhybudd Gwella neu Orchymyn Gwahardd.

Gallwch wneud cais ar-lein trwy ddefnyddio'r ddolen isod

Mae'r ddolen yn mynd â chi at wefan arall y llywodraeth.

Gwneud cais am drwydded ty amlfeddiannaeth

Newid trwydded am dy amlfeddiannaeth

Gallwch gael ffurflenni cais hefyd trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon. Llenwch y ffurflen a'i dychwelyd i'r swyddfa drwyddedu ardal.

Byddwn yn codi tâl am y drwydded hon. Ffioedd a thaliadau am drwyddedau

 

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau