Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS)

Beth yw'r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS)?

Dyma ddull newydd o ymdrin â'r ffordd y mae Cynghorau'n asesu amodau tai.

Mae'n defnyddio dull asesu risg. Mae'n darparu system ar gyfer asesu risgiau ac mae wedi'i chyflwyno gan Ddeddf Tai 2004, a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2006, gan ddisodli'r "Safon Ffitrwydd".

Pam y system newydd?

Nid oedd y safon ffitrwydd yn ymdrin â llawer o'r peryglon a oedd yn effeithio ar iechyd a diogelwch; Roedd asesiadau a wnaed o dan y safon ffitrwydd yn 'seiliedig ar eiddo' ac nid oeddent yn ystyried yn uniongyrchol effaith y diffyg neu'r anwaith penodol, ar y deiliad neu'r ymwelydd. Mae'r HHSRS ar y llaw arall yn mynd i'r afael â'r holl faterion allweddol sy'n effeithio ar iechyd a diogelwch.

Mae cyfanswm o 29 o beryglon. Mae'n darparu dadansoddiad o ba mor beryglus yw eiddo mewn gwirionedd ac mae'n cynnwys tystiolaeth a gwybodaeth ystadegol i gynorthwyo arolygwyr i lunio'u dyfarniadau.

Bob blwyddyn ar gyfartaledd, mae cyflwr tai yn gysylltiedig â hyd at 50,000 o farwolaethau ac oddeutu 0.5 miliwn o afiechydon sydd angen sylw meddygol. Mae'r ystadegau hyn a llawer o rai eraill yn rhan o sylfaen dystiolaeth y system, gan ddeillio o ymchwil helaeth yn y DU (yn yr achos hwn y System Gwyliadwriaeth Damweiniau Cartref). Nid oedd y safon ffitrwydd yn mynd i'r afael â llawer o'r cyflyrau a achosodd y marwolaethau a'r anafiadau hyn.