Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Gwenwynau nad ydynt yn feddyginiaeth

Poison bottle - dangerous substance licences
 Mae rhai cynnyrch o'r cartref, gan gynnwys cemegau glanhau a chemegau gardd, yn cynnwys sylweddau rydym yn ei galw'n 'gwenwynau nad ydynt yn feddyginiaeth'.

Mae'n anghyfreithlon i werthu gwenwynau oni bai eich bod yn fferyllydd masnachol neu fod eich enw ar ein rhestr o'r rheiny sydd â hawl i werthu gwenwynau (gwerthwyr rhestredig).  Dim ond o'r eiddo a enwir ar y rhestr y gall y gwerthwyr rhestredig werthu'r gwenwyn.

Nid oes hawl gan werthwyr rhestredig, werthu gwenwynau sydd wedi'u cynnwys yn Rhan I o'r Rhestr Gwenwynau - dim ond fferyllydd all werthu'r rhain.  Mae hawl gan werthwr rhestredig neu ei ddirprwy a enwyd i werthu'r gwenwynau a enwir yn Rhan II o'r Rhestr Gwenwynau yn ddibynnol ar rai amodau.

Mae gofyn i bob gwerthwr rhestredig gadw Llyfr Gwenwynau i gofnodi gwybodaeth am bob gwenwyn a werthir cyn ei gyflwyno i'r prynwr.

Gallwch gael ffurflen gais trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon.  Llenwch y ffurflen a'i dychwelyd gyda'r ffi i'r swyddfa trwyddedu leol.

Byddwn yn codi tâl blynyddol ar werthwyr rhestredig.

Ffioedd a thaliadau am drwyddedau

 

Cysylltiadau

  • Ebost: trading.standards@powys.gov.uk
  • Ffôn: 0345 6027030 
  • Manylion cyswllt ar gyfer Gogledd Powys: Safonau Masnach - Cyngor Busnes, Neuadd Ffordd Hafren, Y Trallwng, Powys, SY21 7AS
  • Manylion cyswllt ar gyfer De Powys: Safonau Masnach - Cyngor Busnes, Neuadd Brycheiniog, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys, LD3 7HR
  • Manylion cyswllt ar gyfer Canol Powys: Safonau Masnach - Cyngor Busnes, Y Gwalia, Ffordd Ieithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Eich sylwadau am ein tudalennau

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu