Gwenwynau nad ydynt yn feddyginiaeth
Mae'n anghyfreithlon i werthu gwenwynau oni bai eich bod yn fferyllydd masnachol neu fod eich enw ar ein rhestr o'r rheiny sydd â hawl i werthu gwenwynau (gwerthwyr rhestredig). Dim ond o'r eiddo a enwir ar y rhestr y gall y gwerthwyr rhestredig werthu'r gwenwyn.
Nid oes hawl gan werthwyr rhestredig, werthu gwenwynau sydd wedi'u cynnwys yn Rhan I o'r Rhestr Gwenwynau - dim ond fferyllydd all werthu'r rhain. Mae hawl gan werthwr rhestredig neu ei ddirprwy a enwyd i werthu'r gwenwynau a enwir yn Rhan II o'r Rhestr Gwenwynau yn ddibynnol ar rai amodau.
Mae gofyn i bob gwerthwr rhestredig gadw Llyfr Gwenwynau i gofnodi gwybodaeth am bob gwenwyn a werthir cyn ei gyflwyno i'r prynwr.
Gallwch gael ffurflen gais trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon. Llenwch y ffurflen a'i dychwelyd gyda'r ffi i'r swyddfa trwyddedu leol.
Byddwn yn codi tâl blynyddol ar werthwyr rhestredig.
Ffioedd a thaliadau am drwyddedau
Cysylltiadau
Eich sylwadau am ein tudalennau