Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trwyddedau ar gyfer anifeiliaid perfformio

Os ydych yn arddangos, defnyddio neu'n hyfforddi anifeiliaid perfformio, mae'n rhaid i chi gofrestru gyda ni.  Mae angen i ni wybod am yr anifeiliaid a'r perfformiadau y maen nhw'n cymryd rhan ynddynt.  

A fyddech gystal â gwneud cais ar-lein neu gofynnwch i ni am ffurflen gais.  Mae angen i ni wybod hefyd am unrhyw newidiadau i fanylion cofrestru anifeiliaid perfformio.

 

A allaf apelio?

Cofiwch gysylltu â ni os ydych yn anfodlon â'n penderfyniad.

 

Creulondeb i anifeiliaid

Gall swyddog o'r heddlu gyflwyno cwyn i'r llys ynadon lleol os yw'n credu fod yr anifeiliaid yn cael eu trin yn greulon.  Os ydych yn credu bod anifail perfformio yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, cysylltwch â'r cyngor neu'r heddlu.

Llenwch gais ar-lein trwy ddefnyddio'r dolenni isod.  Bydd y dolenni yn eich trosglwyddo i wefan arall y llywodraeth. 

Gwneud cais am drwydded anifail perfformio

Gwneud cais i newid trwydded anifail perfformio

Gallwch gael ffurflen gais oddi wrthym ni trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon.  Llenwch y ffurflen a'i dychwelyd i'r swyddfa trwyddedu ardal gyda'r ffi.

Byddwn yn codi ffi am y drwydded hon.

Ffioedd a thaliadau ar gyfer trwyddedau

 

Contacts

  • Email: trading.standards@powys.gov.uk
  • Phone: 0345 6027030
  • Address for North Powys: Trading Standards - Animal Health and Movement, Kirkhamsfield Depot, Newtown, Powys, SY16 3AF
  • Address for South Powys: Trading Standards - Animal Health and Movement Neuadd Brycheiniog, Brecon, Powys, LD3 7HR

Feedback about a page here