Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwyddedau siopau anifeiliaid anwes

Bydd rhaid i chi gael trwydded i redeg siop anifeiliaid anwes sy'n gwerthu anifeiliaid.  Ni allwch wneud cais am drwydded siop anifeiliaid anwes os ydych chi wedi cael eich gwahardd rhag cadw siop anifeiliaid anwes.

Beth fyddwn yn ei wirio

I gael trwydded, bydd angen i ni gael prawf bod:

  • anifeiliaid yn cael eu cadw mewn lle sy'n lân, y tymheredd a maint cywir ar eu cyfer, gyda'r math cywir o awyru a golau
  • digon o fwyd a diod yn cael ei roi i'r anifeiliaid ac y bydd rhywun yn cadw llygaid arnynt yn rheolaidd
  • na fydd yr anifeiliaid yn eu gwerthu pan fyddant yn rhy ifanc
  • camau'n cael eu cymryd i atal afiechydon rhag lledaenu ymhlith yr anifeiliaid
  • trefniadau ar gyfer tân ac argyfwng

 

Apeliadau

Os na fyddwch yn cael trwydded neu os nad ydych yn fodlon ag amodau eich trwydded, gallwch apelio i'r llys Ynadon.

Gallwch gael ffurflen gais oddi wrthym ni trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon.  Llenwch y ffurflen a'i dychwelyd i'r swyddfa trwyddedu ardal gyda'r ffi.

Byddwn yn codi ffi am y drwydded hon.

Ffioedd a thaliadau ar gyfer trwyddedau

 

Contacts

  • Email: trading.standards@powys.gov.uk
  • Phone: 0345 6027030
  • Address for North Powys: Trading Standards - Animal Health and Movement, Kirkhamsfield Depot, Newtown, Powys, SY16 3AF
  • Address for South Powys: Trading Standards - Animal Health and Movement Neuadd Brycheiniog, Brecon, Powys, LD3 7HR

Feedback about a page here