Trwyddedau Petrolewm
Rydym yn trwyddedu petrolewm er mwyn gwneud yn siwr fod y rhai sy'n ei gadw a'i ddosbarthu yn gwneud hynny'n ddiogel, gan ddiogelu'r cyhoedd a'r amgylchedd.
Ydw i angen trwydded?
Er dibenion trwyddedu, mae 'petrolewm' yn unrhyw gynnyrch petrolewm crai sydd â phwynt tanio o dan 21 gradd. Mae hyn yn cynnwys petrol, bensen a phentân, ond nid yw'n cynnwys sbirit gwyn, paraffîn, olew disel neu olew tanwydd.
Mae'n rhaid i orsaf betrol (masnachol ac anfasnachol) sy'n storio mwy na 15 litr o betrolewm gael trwydded:
Mae hyn yn cynnwys safleoedd masnachol a ffermydd sydd â thanciau storio petrol i roi petrol mewn tanciau tanwydd neu beiriannau tanio mewnol, un ai'n fecanyddol neu drydanol, (sylwch fod hyn yn ddiffiniad llawer ehangach na dim ond cerbydau modur).
Sut i wneud cais
Os na fyddwch wedi cael ateb o fewn 14 diwrnod calendr o anfon eich cais, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion ar y dudalen hon.
Mae'r ffi ar gyfer trwydded petrolewm yn dibynnu ar faint o betrolewm fydd yn cael ei storio. Mae trwyddedau'n cael eu rhoi ar gyfer safle, a byddant yn ddilys am flwyddyn fel arfer; mae modd eu trosglwyddo, ond byddwn yn codi tâl am drosglwyddo trwydded.
Llenwch gais ar-lein trwy ddefnyddio'r dolenni isod. Bydd y dolenni yn eich trosglwyddo i wefan arall y llywodraeth.
Gwneud cais am drwydded storio petrolewm
Newid trwydded storio petrolewm
Gwneud cais i drosglwyddo trwydded storio petrolewm
Gwneud cais i adnewyddu trwydded storio petrolewm
Gallwch gael ffurflenni cais trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon. Llenwch y ffurflen a'i dychwelyd i'r swyddfa trwyddedu ardal gyda'r ffi.
Byddwn yn codi tâl am y drwydded hon.
Ffioedd a thaliadau am drwyddedau
Apeliadau
Os ydych yn anfodlon gyda'n penderfyniad ar eich cais am drwydded, mae croeso i chi gysylltu â ni i'w drafod.
Os yw cais yn cael ei wrthod gallwch apelio i'r Ysgrifennydd Gwladol.
Cwynion gan ddefnyddwyr
Os oes gennych chi fel unigolyn preifat gwyn am fusnes sy'n gweithredu o dan y drwydded hon, cysylltwch â'r masnachwr yn y lle cyntaf - llythyr fyddai orau (gyda phrawf iddo gael ei ddosbarthu). Os nad yw hyn wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DG, bydd Cyswllt Defnyddwyr yn cynnig cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DG, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DG.
Cysylltiadau
Eich sylwadau am ein tudalennau