Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trwyddedau sefydliadau marchogaeth

Ceffylau - Trwyddedau sefydliadau marchogaeth

Os ydych yn bwriadu cadw ceffylau neu ferlod i'w llogi ar gyfer marchogaeth neu i ddysgu marchogaeth, bydd angen i chi wneud cais am Drwydded Sefydliad Marchogaeth.

Beth fyddwn yn ei wirio

Mae'n rhaid i chi fod dros 18 oed ac ni ddylech  fod wedi cael eich gwahardd rhag:

  • cadw sefydliad marchogaeth
  • cadw siop anifeiliaid anwes
  • cadw anifeiliaid
  • cadw sefydliadau lletya anifeiliaid
  • cadw neu berchen anifeiliaid, gallu dylanwadu ar sut mae anifeiliaid yn cael eu cadw, delio mewn anifeiliaid neu bod ynghlwm â chludo anifeiliaid


Gwybodaeth y byddwn ei angen

Bydd angen i ni weld adroddiad gan filfeddyg am gyflwr y ceffylau a'r eiddo.  Bydd angen i ni wybod hefyd:

  • Sut yr ydych yn bwriadu cadw'r ceffylau'n iach, heini a chyffyrddus
  • Os yw'r ardal i'w defnyddio ar gyfer gwersi marchogaeth yn addas
  • Os oes llety a gwellt i'w roi ar lawr yn addas ar gyfer y ceffylau 
  • Os oes glaswellt, cysgod a dwr addas ac os bydd bwyd arall yn cael ei roi i geffylau sy'n cael eu cadw ar laswellt
  • Os bydd y ceffylau'n cael eu hymarfer, eu paratoi a'u tacluso, yn cael gorffwys ac y bydd rhywun yn ymweld â hwy yn rheolaidd
  • Bod gweithdrefnau priodol ar waith i atal afiechydon rhag lledaenu a pha gyfarpar cymorth cyntaf a meddyginiaethau fydd ar gael?
  • Pa gynlluniau sydd yn eu lle i amddiffyn y ceffylau mewn achos o dân.


Amodau ac apeliadau

Bydd trwydded sefydliad marchogaeth yn cynnwys yr amodau canlynol:

  • na fydd unrhyw geffyl sydd angen sylw milfeddyg yn dychwelyd i weithio tan eich bod wedi cael tystysgrif gan y milfeddyg yn cadarnhau fod y ceffyl yn iawn i weithio.
  • bod yn rhaid i unigolyn cyfrifol 16 oed neu hyn oruchwylio'r ceffylau sy'n cael eu llogi neu sy'n cael eu defnyddio ar gyfer gwersi marchogaeth, oni bai eich bod yn siwr nad oes angen goruchwyliaeth ar y marchog
  • na fydd y busnes yn cael ei adael yng nghofal rhywun 16 oed neu iau
  • fod gennych yswiriant digolledu
  • eich bod yn cadw cofrestr o'r holl geffylau sydd yn eich meddiant sy'n tair blwydd oed neu iau a bod y gofrestr ar gael i'w harchwilio ar bob adeg.

A allaf apelio?

Gallwch apelio i'r llys ynadon lleol os yw eich cais yn cael ei wrthod neu os hoffech wneud apel yn erbyn amod o'ch trwydded.  Cysylltwch â ni am hyn



Ffurflenni Cais

Llenwch gais ar-lein trwy ddefnyddio'r dolenni isod.  Bydd y dolenni yn eich trosglwyddo i wefan arall y llywodraeth. 

Gwneud cais am drwydded sefydliad marchogaeth

Gwneud cais i newid trwydded sefydliad marchogaeth

Gallwch gael ffurflen gais  trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon.  Llenwch y ffurflen a'i dychwelyd i'r swyddfa drwyddedu ardal gyda'r ffi.

Byddwn yn codi tâl am y drwydded hon.

Cysylltiadau

  • Ebost: public.protection@powys.gov.uk
  • Rhif ffôn: 01597 827467
  • Cyfeiriad: Lechyd yr Amgylchedd, Tŷ Maldwyn, Brook Street, Y Trallwng, Powys, SY21 7PH

Eich sylwadau am ein tudalennau