Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwyddedau sefydliadau rhyw

I redeg siop ryw - unrhyw safle sy'n gwerthu teganau, llyfrau neu fideos rhyw - efallai y bydd angen trwydded arnoch. Bydd angen trwydded hefyd i redeg lleoliad a fydd yn dangos ffilmiau rhyw i'r cyhoedd. Serch hynny, gallwch ofyn i ni  hepgor yr angen am drwydded.

Pwy all wneud Cais

Rhaid i ymgeisydd:

  • fod dros 18 oed
  • beidio â bod wedi'i wahardd rhag cael trwydded
  • fod wedi byw yn y DG am o leiaf chwe mis yn union cyn y cais, neu os yw'n gais gan gorff corfforaethol, rhaid ei fod yn gorfforedig yn y DG
  • fod heb gael cais i ganiatau neu adnewyddu trwydded ar gyfer y safle dan sylw wedi'i wrthod yn y 12 mis diwethaf, oni bai bod hynny wedi'i wyrdroi yn dilyn apêl.

 

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais ar-lein neu ofyn i ni am ffurflen gais.

Gellir defnyddio'r ffurflen gais sydd wedi'i hargraffu ar gyfer ceisiadau am drwydded neu i drosglwyddo neu adnewyddu trwydded. Rhaid anfon copi o'r cais at yr Heddlu o fewn 7 diwrnod o wneud cais.

Rhaid i chi hefyd roi rhybudd cyhoeddus o'r cais trwy gyhoeddi hysbyseb yn y papur newydd lleol. Rhaid ei gyhoeddi o fewn 7 diwrnod o wneud y cais. Os yw'r cais yn ymwneud â safle, yna mae gofyniad ychwanegol i'r rhybudd gael ei arddangos am 21 diwrnod ar neu wrth ymyl y safle lle bydd yn gyfleus i'r cyhoedd ei ddarllen. Rhaid i'r rhybudd gynnwys gwybodaeth benodol, ac mae'r Cyngor yn nodi'r diwyg i'w ddefnyddio.

Gall deiliaid trwyddedau wneud cais i'r awdurdod i ddiwygio amodau, telerau neu gyfyngiadau i'w trwyddedau.

Os na fyddwch wedi clywed oddi wrthym o fewn 14 diwrnod calendr o gyflwyno eich cais, cysylltwch â ni trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon.

 

Ffurflenni cais

Gallwch wneud cais ar-lein trwy ddefnyddio'r ddolen isod. Mae'r ddolen yn mynd â chi i wefan arall y llywodraeth.

Gwneud cais am drwydded siop ryw a sinema

Newid trwydded siop ryw a sinema

Gallwch gael ffurflenni cais  hefyd trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon. Llenwch y ffurflen a'i dychwelyd i'r swyddfa drwyddedu ardal.

Byddwn yn codi tâl am y drwydded hon.

Gwrthwynebiadau

Dylai unrhyw un sy'n gwrthwynebu cais i ganiatau, adnewyddu neu drosglwyddo wneud eu gwrthwynebiadau yn ysgrifenedig, gan esbonio pam y maent yn gwrthwynebu, o fewn 28 diwrnod o ddyddiad y cais.

Mae yn niddordeb y cyhoedd y dylai Cyngor Sir Powys brosesu cais cyn iddo gael caniatâd.

 

Apeliadau

Os ydych yn anhapus am ein penderfyniad, cysylltwch â ni cyn gwneud apêl.

Gall unrhyw un sydd â'i gais am drwydded yn cael ei wrthod, neu fod ei gais i adnewyddu trwydded yn cael ei wrthod, apelio i Lys yr Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o gael ei hysbysu.

Serch hynny, ni allwch apelio os bydd y drwydded yn cael ei gwrthod ar sail:

  • fod nifer y sefydliadau rhyw yn yr ardal yn uwch na'r nifer y mae'r awdurdod yn ei ystyried yn addas
  • y byddai rhoi trwydded yn anaddas o ystyried cymeriad yr ardal, natur safleoedd eraill yn yr ardal neu'r safle ei hun

Gallwch apelio i Lys yr Ynadon yn erbyn amod. Os bydd cais am ddiwygiad yn cael ei wrthod, neu os caiff trwydded ei thynnu'n ôl, gallwch apelio i'r llys ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o gael eich hysbysu.

 

Cwynion gan ddefnyddwyr

Gall deilydd trwydded apelio hefyd i lys y goron yn erbyn penderfyniad llys yr ynadon.

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma