Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwyddedau ar gyfer tatwyddion, trydylliadau, electrolysis ac aciwbigiadau (Acupuncture)

Mae'r gyfraith yn newid.

O 29 Tachwedd 2024 ymlaen, bydd yn ofynnol yn gyfreithiol i ymarferwyr sy'n cyflawni unrhyw weithdrefn arbennig (gweler isod) ar rywun arall yng Nghymru fod yn drwyddedig (cyfeirir at y drwydded hon fel 'Trwydded Triniaethau Arbennig') a bydd angen i mangreoedd/cerbydau y mae ymarferwyr triniaethau arbennig yn gweithredu ohonynt gael eu cymeradwyo (a elwir yn 'Dystysgrif Mangreoedd a Gymeradwywyd). Bydd gan y cynllun hefyd ofynion/amodau gorfodol o fewn y Rheoliadau ar gyfer ymarferwyr ac mangreoedd/cerbydau.

 

Gweithdrefnau arbennig sy'n dod o dan y cynllun trwyddedu newydd

Mae'r cynllun newydd ond yn berthnasol i driniaethau arbennig, a ddiffinnir yn Adran 57 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, ac sy'n cynnwys:

  • Aciwbigo
  • Tyllu'r corff
  • Electrolysis
  • Tatŵio (gan gynnwys colur lled-barhaol / microlafnu )

 

Ymarferydd Trwydded Triniaethau Arbennig Ymarferydd Trwydded Triniaethau Arbennig

Tystysgrif Eiddo / Cerbyd Cymeradwy Tystysgrif Eiddo / Cerbyd Cymeradwy

 

Cwynion gan Ddefnyddwyr

Os oes gennych gwyn am fusnes sy'n gweithredu o dan y dull cofrestru hwn, cysylltwch â'ch swyddfa leol gan ddefnyddio'r manylion ar y dudalen hon.

Cysylltiadau

  • Ebost: public.protection@powys.gov.uk
  • Rhif ffôn: 01597 827467
  • Cyfeiriad: Lechyd yr Amgylchedd, Tŷ Maldwyn, Brook Street, Y Trallwng, Powys, SY21 7PH

Eich sylwadau am ein tudalennau

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu