Toglo gwelededd dewislen symudol

Hyfforddiant Rheolwr Hyfforddi (1 Diwrnod)

Budd i'r Sefydliad

Rhoddir mwy a mwy o gydnabyddiaeth i'r syniad bod creu Diwylliant Hyfforddi Personol o fewn sefydliadau, ble gellir grymuso unigolion i ddarganfod eu datrysiadau eu hunain i broblemau, o fudd mawr i effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y sefydliad. Nid oes gan bawb yr amser, y capasiti na'r ewyllys i ymgymryd â chymhwyster hyfforddi llawn. 
 
Mae'r cwrs 1 Diwrnod hwn wedi'i anelu at reolwyr i'w galluogi i ennill dealltwriaeth gychwynnol o effaith hyfforddi personol a dechrau defnyddio modelau sylfaenol yn y ffordd y maent yn rheoli eu gweithwyr cyflog o ddydd i ddydd. 

Pwy Ddylai Fynychu?

  • Unrhyw reolwr sy'n dymuno dysgu ffyrdd gwahanol o arwain eu gweithwyr cyflog.
  • Unrhyw reolwr sy'n dymuno sicrhau bod aelodau eu tîm yn dysgu sut i gymryd perchenogaeth o'u meysydd gwaith eu hunain. 

Amcanion Dysgu

  • Deall beth yw hyfforddi personol a ble mae'n eistedd yng nghyd-destun y sefydliad.
  • Deall hanfodion sut i hyfforddi'n gywir ac yn effeithiol.
  • Adnabod y modelau sylfaenol a ddefnyddir mewn hyfforddi personol. 

Cynnwys y Cwrs

  • Egwyddorion sylfaenol y Sgwrs Hyfforddi
  • Modelau Hyfforddi (yn cynnwys OSCAR a'r Model Twf)
  • Cyfle i ymarfer hyfforddi rhywun arall 

Hyd

1 Diwrnod   (Amser: 09:30 i 16:30)

Dyddiadau a Phrisiau'r Cwrs 

Cysylltwch â leadership@powys.gov.uk

 

Trefnu Lle

Gall gweithwyr Cyngor Sir Powys ddefnyddio Hunan Wasanaeth iTrent i gadw lle ar y cwrs hwn.  Ar gyfer holl ymgeiswyr eraill, cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma​​​​​​​