Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Datblygu'r Sefydliad a'r Gweithlu

Mae datblygiad y sefydliad a hyfforddi yn chwarae rhannau pwysig yn y dasg o helpu sefydliadau a'r rheiny sy'n gweithio ynddynt i fod yn effeithiol.  Mae gan bob sefydliad gyfrifoldeb i hyfforddi'r gweithiwr i ddatblygu ei wybodaeth, ei sgiliau a'i allu i berfformio'n effeithiol yn ei swydd.  Mae buddsoddi mewn hyfforddiant a datblygiad yn cael ei ystyried yn gyffredinol yn arfer rheoli da er mwyn cynnal sgiliau ac arbenigedd priodol a darparu'r rhain ar gyfer y dyfodol. Mae gan hyfforddiant oblygiadau ar gyfer cynhyrchiant, iechyd, diogelwch a llesiant yn y gwaith ac ar gyfer datblygiad personol

Rhwydwaith Hyfforddi Powys

Mae'r tîm Datblygu'r Gweithlu a'r Sefydliad yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi i ddatblygu sgiliau rheoli a sgiliau personol.  Mae gennym bortffolio o gyfleoedd hyfforddi a datblygu i'w cynnig i chi, yn gyrsiau achrededig a rhai heb eu hachredu, o hyfforddiant iechyd a diogelwch hyd at ddarparu rhaglenni datblygu i'r tîm cyfan, a dyddiau rhyngweithiol o ddatrys problemau. 

Mae'r llyfryn yma'n darparu proffil o'n cyrsiau. Fodd bynnag rydym yn fodlon llunio cyrsiau'n benodol ar gyfer eich gofynion chi, felly os na allwch ddarganfod yr union beth rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â ni i drafod eich gofynion - gallwn fod yn hyblyg a gweithio gyda chi i ddiwallu eich anghenion hyfforddi.