Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Trefnu Seremoni Dinasyddiaeth

Os ydych dros 18 a'ch cais am ddinasyddiaeth Brydeinig yn llwyddiannus, bydd  rhaid i chi gymryd rhan mewn seremoni dinasyddiaeth.

Gallwch ddysgu mwy am ddod yn ddinesydd Prydeinig a darllen am y gwahanol  ffioedd ar gyfer ceisiadau dinasyddiaeth  ar wefan Awdurdod Ffiniau y DG.

Beth sy'n digwydd mewn Seremoni Dinasyddiaeth?
Image of the British flag and passport

Bydd y seremoni'n agor gyda gair o groeso. Yna byddwch yn tyngu llw teyrngarwch y Brenin ac yn addunedu i fod yn deyrngar i'r Deyrnas Unedig. Yna byddwch yn derbyn eich tystysgrifau dinasyddiaeth a dod yn ddinesydd Prydeinig.

Cyn diwrnod y seremoni, byddwn yn gofyn i chi a hoffech chi dyngu ynteu cadarnhau'r llw teyrngarwch yn y seremoni. Os oes gennych gred grefyddol, gallwch dyngu'r llw ar lyfr sanctaidd. Gallwch ddod â'r llyfr gyda chi i'r achlysur. Os byddai'n well gennych beidio â thyngu'r llw, gallwch gadarnhau'r llw yn lle. Bydd angen i chi ddod â'ch llythyr gan y Swyddfa Gartref yn eich gwahodd i'r seremoni, a dogfen swyddogol sy'n cadarnhau pwy ydych (naill ai eich pasbort cyfredol neu'ch cerdyn trwydded yrru). Heb y dogfennau hyn, ni fyddwn yn gallu parhau â'r seremoni.

Bydd y seremoni'n eich helpu chi ddeall beth yw eich hawliau a'ch cyfrifoldebau fel dinesydd Prydeinig, ac yn eich croesawu chi fel rhan o'r gymuned.

Ym Mhowys, cynhelir y seremonïau yn ein Swyddfeydd Cofrestru yn Ystradgynlais, Aberhonddu, Llandrindod, Y Drenewydd a'r Trallwng. Bydd croeso i ddinasyddion wahodd eu teulu a'u ffrindiau i'r seremoni.

Cyswllt

  • Ebost: registrars@powys.gov.uk
  • Rhif ffôn: 01597 827468
  • Cyfeiriad: Gwasanaethau Cofrestru, Y Gwalia, Ffordd Ieithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Rhowch sylwadau am dudalen yma

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu