Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae cymorth ar gael ar gyfer costau olew gwresogi sy'n codi.

Trefnu Seremoni Dinasyddiaeth

Seremonïau Dinasyddiaeth

Unwaith y bydd eich cais am ddinasyddiaeth Brydeinig wedi'i gymeradwyo gan y Swyddfa Gartref, byddwch yn cael eich gwahodd i fod yn bresennol mewn seremoni ddinasyddiaeth - y cam olaf i ddod yn ddinesydd Prydeinig.

Rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus 18 oed a hŷn fod yn bresennol yn y seremoni. Nid yw'n ofynnol i ymgeiswyr o dan 18 oed fod yn bresennol ond gallant wneud hynny os dymunant.

Nodyn: Rhaid i chi fynychu seremoni o fewn 90 diwrnod ar ôl derbyn eich cymeradwyaeth. Os na wnewch hynny efallai y bydd angen i chi ailwneud cais am ddinasyddiaeth.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am wneud cais am Ddinasyddiaeth Brydeinig yma; Dinasyddiaeth Brydeinig - GOV.UK

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Cyn gynted ag y byddwn wedi derbyn eich gwaith papur dinasyddiaeth gan y Swyddfa Gartref, byddwn yn cysylltu â chi gyda'r dyddiadau sydd ar gael ar gyfer seremoni yn swyddfa eich cyngor lleol.

Gall seremonïau gael eu cynnal yn ein swyddfeydd yn Aberhonddu, Llandrindod neu'r Drenewydd.

 

Beth yw seremoni ddinasyddiaeth?

Mae'r seremoni ddinasyddiaeth yn achlysur ffurfiol sy'n eich croesawu i'r gymuned Brydeinig ac yn cadarnhau eich dinasyddiaeth newydd yn swyddogol.

Yn ystod y seremoni, byddwch chi'n:

  • Tyngu llw o deyrngarwch (neu gwnewch gadarnhad os yw'n well gennych beidio â thyngu llw yn enw Duw).
  • Addo teyrngarwch i'r Deyrnas Unedig, ei hawliau, ei rhyddidau a'i chyfreithiau.
  • Derbyn eich Tystysgrif Dinasyddiaeth Brydeinig a phecyn croeso

Gall dinasyddion newydd wahodd teulu a ffrindiau i fynychu'r seremoni a dathlu'r garreg filltir bwysig hon. Cyn eich seremoni, bydd angen i chi roi gwybod i ni faint o westeion fydd yn bresennol gyda chi.

 

Pethau i chi ddod gyda chi ar y diwrnod?

Dewch â'r eitemau canlynol i'ch seremoni:

  •  Eich llythyr gwahoddiad gwreiddiol gan y Swyddfa Gartref
  • Pasbort dilys, ID â llun neu Drwydded Breswylio Biometrig

Sylwer: Os oes gennych eich Trwydded Breswylio Biometrig o hyd, rhaid i chi ei ddychwelyd o fewn 5 diwrnod ar ôl eich seremoni. Gall methu â dychwelyd eich Trwydded Breswylio Biometrig arwain at ddirwy

 

Ar ôl y seremoni

Byddwch yn derbyn eich Tystysgrif Naturoli ar ddiwrnod eich seremoni. Ar ôl hynny gallwch wneud cais am basbort Prydeinig a Chofrestru i bleidleisio

Os bydd eich Tystysgrif Naturoli yn mynd ar goll neu'n cael ei difrodi -Amnewid neu gywiro tystysgrif dinasyddiaeth y DU - GOV.UK

 

 

Cyswllt

Rhowch sylwadau am dudalen yma

Rhannwch y dudalen hon