Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cofrestru genedigaeth

Image of a baby's hand holding an adults hand
Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i chi gofrestru genedigaeth baban o fewn 42 diwrnod o'r dyddiad geni. Efallai y byddwch yn gallu gwneud hyn yn yr ysbyty - gall staff yno roi manylion i chi. Fel arall, bydd angen i chi fynd i Swyddfa Gofrestru. Mae'n well gwneud apwyntiad fel na fydd rhaid i chi aros.

Dewch o hyd i'ch Swyddfa Gofrestru Leol a ffonio i drefnu ymweliad yn ystod eu horiau agor.

Os yw'r cofrestrydd yn brysur, gadewch neges a bydd rhywun yn rhoi galwad yn ôl i chi.

Pwy all gofrestru'r baban?

Os yw mam a thad y baban yn briod â'i gilydd pan gafodd y baban ei eni, gall y naill neu'r llall gofrestru'r enedigaeth. Os nad oeddynt yn briod, gall y fam gofrestru, a gellir cynnwys manylion y tad os y daw ef gyda hi. Os nad yw hyn yn bosibl, gall y Gwasanaeth Cofrestru roi cyngor i chi ar beth i'w wneud.

A oes angen i mi ddod ag unrhyw beth gyda mi?

Gofynnir i bawb sy'n mynychu apwyntiad i ddod â'r llyfr cofnod iechyd (y llyfr coch) ar gyfer y baban gyda hwy ac I.D. ar gyfer eu hunain.  Yn ogystal â hyn bydd angen i'r cofrestrydd wybod:

  • Dyddiad a lle y cafodd y baban ei eni
  • Rhyw y baban
  • Enw llawn y baban
  • Manylion y fam: enw llawn (a'i chyfenw cyn priodi os yn berthnasol); dyddiad a man geni; cyfeiriad arferol ar ddyddiad yr enedigaeth; swydd (dewisol); dyddiad y briodas (os yn briod â thad y baban ar adeg yr enedigaeth); nifer y plant sydd gan y fam eisoes.
  • Os yw manylion y tad i'w gosod ar y gofrestr, byddwch angen ei enw llawn, ei ddyddiad a man geni, a'i swydd ar adeg yr enedigaeth (neu ei swydd ddiwethaf).

Os nad yw'r rhieni wedi priodi, nid oes rhaid i'r fam gynnwys ei fanylion fel arfer. Efallai y bydd yn bosibl eu hychwanegu'n hwyrach.

Beth fydd yn digwydd?

Bydd y cofrestrydd yn gofyn am y manylion a restrir uchod. Wedi hynny, byddant yn rhoi copi o'r dudalen gofrestru i chi ac yn gofyn i chi daro golwg drosti. Os oes camgymeriad, gall gymryd amser hir i'w gywiro, felly darllenwch y dudalen yn ofalus iawn. Mae cofrestru fel arfer yn cymryd tua 30 munud.

A oes tâl?

Gallwch gofrestru am ddim.  Os ydych am gael pasbort neu gyfrif banc ar gyfer y baban bydd angen i chi gael tystysgrif geni llawn (bydd rhaid talu am y dystysgrif).  Gallwch ei harchebu (neu fersiynau byr - bydd angen talu am y rhain) pan fyddwch yn cofrestru neu gallwch gael un nes ymlaen - ewch i'n tudalen prisiau.

Babanod sydd wedi'u geni y tu allan i Bowys

Os ganed eich baban y tu allan i Bowys, gallwch fynd i'r Swyddfa Gofrestru i wneud 'datganiad o enedigaeth'. Bydd y cofrestrydd yn ei anfon i'r Swyddfa Gofrestru yn yr ardal lle ganed eich baban a byddwch yn cael tystysgrif geni yn y post.

Byddwch angen siec neu archeb bost i'w gwneud yn daladwy i'r Swyddfa Gofrestru briodol - gofynnwch am hyn wrth wneud apwyntiad.

Os ydych angen y dystysgrif ar frys, bydd rhaid i chi fynd nôl i'r ardal lle ganed y baban a chofrestru'n bersonol.

Ail-gofrestru genedigaeth

Mae yna ddau reswm pam y dylech ail-gofrestru genedigaeth sydd wedi'i chofrestru eisoes :

  • Os yw rhieni naturiol y plentyn yn priodi ar ôl i'r plentyn gael ei eni a'i gofrestru. Bydd yr ailgofrestru'n diweddaru'r dystysgrif geni.
  • Os nad yw manylion y tad naturiol ar y dystysgrif wreiddiol, efallai oherwydd nad oedd yn bresennol ar y pryd. Bydd ailgofrestru yn diweddaru'r dystysgrif geni i gynnwys ei fanylion.

Gellir lawrlwytho'r ffurflenni perthnasol oddi ar gov.uk