Toglo gwelededd dewislen symudol

Trefnu seremoni Adnewyddu Llwon

Gall Seremonïau Adnewyddu Llwon neu Ymrwymiad gael eu cynnal ar gyfer parau priod neu bartneriaid sifil. Maent yn ffordd boblogaidd o nodi pen-blwydd achlysuron arbennig megis pen-blwydd priodas Arian, ond gellir eu cynnal ar unrhyw adeg o'r briodas neu bartneriaeth.
Image of wedding rings

Gall seremonïau adnewyddu llwon neu ymrwymiad hefyd fod yn berthnasol iawn i barau sydd wedi dod trwy gyfnod anodd gyda'i gilydd ac sy'n dymuno ail-gadarnhau eu hymrwymiad i'w gilydd.

Os gwnaethoch briodi neu ffurfio Partneriaeth Sifil dramor, efallai byddwch am gael seremoni ar gyfer teulu neu ffrindiau oedd yn methu bod yn bresennol gyda chi pan wnaethoch chi briodi neu ffurfio'r Bartneriaeth.

Gall y seremoni gael ei haddasu yn unol â'ch dymuniadau chi a gall y seremoni gynnwys cyfraniadau gan deuluoedd a ffrindiau, cerddoriaeth, darlleniadau a barddoniaeth. Efallai y byddwch am ail-gadarnhau eich ymrwymiad trwy eich modrwyon neu gyfnewid anrhegion arbennig. Bydd y pâr a dau dyst yn llofnodi tystysgrif swfenîr yn ystod y seremoni.

Fel arfer bydd seremoni'n para am oddeutu 20 munud ond bydd hyn yn dibynnu  ar nifer y darlleniadau ac ati sy'n cael eu cynnwys.

Trefnu seremoni Trefnu Seremoni

Gall y seremoniau gael eu cynnal mewn Swyddfa Gofrestru neu mewn un o'r lleoliadau a gymeradwyir gan Gyngor Sir Powys.  Os ydych yn dewis cynnal y seremoni yn un o'r lleoliadau hyn bydd angen i chi gysylltu â nhw yn gyntaf i weld os oes dyddiad ar gael a'r pris sy'n cael ei godi. 

Statws cyfreithiol

Nid oes gan Seremoni Adnewyddu Llwon neu Seremoni Ymrwymiad unrhyw statws cyfreithiol ac mae'n rhaid i ni weld eich tystysgrif priodi neu bartneriaeth pan fyddwch yn gwneud y trefniadau cychwynnol. 

Cyswllt

  • Ebost: registrars@powys.gov.uk
  • Rhif ffôn: 01597 827468
  • Cyfeiriad: Gwasanaethau Cofrestru, Y Gwalia, Ffordd Ieithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Rhowch sylwadau am dudalen yma