Toglo gwelededd dewislen symudol

Cofrestru

Weithiau, os oedd y farwolaeth yn sydyn neu os nad yw'r meddyg a oedd yn gofalu am yr un sydd wedi marw ar gael, efallai na fydd modd cyflwyno tystysgrif feddygol sy'n nodi achos y farwolaeth. Os bydd hyn yn digwydd, bydd rhaid adrodd am y farwolaeth i'r crwner. Gall hyn arwain at oedi wrth gofrestru'r farwolaeth.

Rhaid cofrestru pob marwolaeth yn yr ardal lle  digwyddodd y farwolaeth,  o fewn 5 diwrnod. Fel arfer, mae'r wybodaeth am yr unigolyn sydd wedi marw yn cael ei chofrestru ar gyfrifiadur yn ogystal â chofrestr marwolaeth, a bydd yr un sy'n cofrestru'r farwolaeth yn llofnodi'r cofnod.

Os nad yw'n hawdd i'r un sy'n cofrestru'r farwolaeth i fynd i'r ardal lle digwyddodd y farwolaeth, gellir rhoi'r wybodaeth ar gyfer cofrestru'r farwolaeth i gofrestrydd mewn ardal arall. Bydd y cofrestrydd yn cofnodi manylion y cofrestriad ar ffurflen datganiad, a'i hanfon at gofrestrydd y cylch priodol a fydd yn nodi'r wybodaeth ar y gofrestr farwolaeth.

Gellir cofrestru yn ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg os yw'r un sy'n cofrestru'r farwolaeth yn rhoi'r wybodaeth yn y Gymraeg a bod y cofrestrydd yn gallu deall ac ysgrifennu yn y Gymraeg. Os nad yw'r cofrestrydd yn gallu deall nac ysgrifennu Cymraeg, gellir cofrestru mewn ardal wahanol lle mae yna gofrestrydd sy'n siarad Cymraeg, gan ddefnyddio'r weithdrefn datganiad fel y disgrifiwyd uchod.