Toglo gwelededd dewislen symudol

Cofrestru marwolaeth

Pan fydd rhywun yn marw, bydd y meddyg a oedd yn trin yr un sydd wedi marw yn cyflwyno tystysgrif feddygol sy'n dangos achos y farwolaeth. 

Rhaid i bob marwolaeth gael ei chofrestru yn y dosbarth lle digwyddodd y farwolaeth. O dan y gyfraith yng Nghymru a Lloegr rhaid gwneud hyn o fewn 5 diwrnod calendr o ddyddiad y farwolaeth. Pan fydd y meddyg wedi cyflwyno'r Dystysgrif Feddygol sy'n nodi Achos y Farwolaeth (MCCD) ffoniwch y gwasanaeth cofrestru ar 01597 827468 i drefnu apwyntiad i'w chofrestru.