Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sesiwn Archwilio Sgiliau Hanfodol

Budd i'r Sefydliad

Mae'r term Sgiliau Hanfodol yn cwmpasu sgiliau rhifedd, llythrennedd a TGCh. Ar ôl gadael addysg, bydd llawer o bobl yn cael y gall lefelau eu sgiliau yn y meysydd hyn ostwng o achos diffyg defnydd. Gyda'r cynnydd yn y gofynion ar ein gweithlu i wella'u llythrennedd TGCh, gall pobl hefyd deimlo'u bod yn cael eu gadael ar ôl a bod yn ddihyder ynghylch dysgu technolegau newydd neu gymryd rhan mewn e-ddysgu. Bydd archwiliad o Sgiliau Hanfodol gan ddefnyddio arf asesu cychwynnol WEST, sydd wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, yn rhoi darlun manwl i unigolion o ble mae bylchau yn eu gwybodaeth ac yn caniatáu i gynllun dysgu unigol effeithiol gael ei roi mewn lle a fydd yn targedu'r meysydd y mae'r asesiad yn eu hamlygu. 

Pwy Ddylai Fynychu? 

Mae'r cyfle hwn i werthuso lefel eich Sgiliau Hanfodol yn agored i unrhyw un a fyddai â diddordeb mewn uwchraddio'i sgìl neu mewn gwerthuso beth fyddai ei angen er mwyn codi lefel ei sgiliau at safon benodol. 

Amcanion Dysgu 

  • Canfod ble mae'r bylchau mewn gwybodaeth o ran sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCh
  • Bod yn ymwybodol o'r opsiynau sydd ar gael i uwchraddio sgiliau
  • Llunio cynllun astudio i fynd i'r afael â'r bylchau mewn gwybodaeth 

Course Content

  • Asesiad cychwynnol WEST
  • Llunio cynllun dysgu unigol 

Hyd

Bydd hyd yr asesiad cychwynnol gyda chyfrifiadur i bennu lefel sgiliau yn dibynnu ar yr unigolyn dan sylw, a gall gymryd rhwng 1 a 6 awr. Caiff cyfranogwyr gwblhau'r asesiad mewn mwy nag un sesiwn. 

Dyddiadau'r Cwrs

Mae'r dyddiadau'n hyblyg iawn a gellir eu trefnu yn ôl yr hyn sy'n gyfleus i'r cyfranogwr. 

E-bostiwch: leadership@powys.gov.uk 

Gwybodaeth Arall

Mae canlyniadau'r holl asesiadau cychwynnol yn gyfrinachol a dim ond y cyfranogwr a'r hwylusydd fydd yn eu gweld oni bai y bydd y cyfranogwr yn rhoi caniatâd i rannu'r wybodaeth gyda thrydydd partïon a enwir.

Trefnu Lle

Cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma​​​​​​​