Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sut i ddefnyddio'r gwasanaeth

Dweud wrthym yn bersonol

Os hoffech ddod draw a siarad gyda rhywun, ffoniwch 0345 602 7038 neu 01597 827468 i wneud apwyntiad. Bydd angen i chi gofrestru'r farwolaeth  cyn i chi ein gweld. Os mae'n helpu, gallwch fel arfer wneud apwyntiad i weld y Cofrestrydd a defnyddio'r gwasanaeth Dweud Unwaith yn ystod yr un ymweliad.

Ffôn

Efallai y byddai'n well gennych siarad â rhywun dros y ffôn. Gallwch ffonio'r Adran Gwaith a Phensiynau. Ffoniwch 0345 602 7038 neu 01597 827468 am ragor o wybodaeth.

Dweud Unwaith

Gallwn eich helpu i roi'r wybodaeth i'r Adran Gwaith a Phensiynau a gallant drosglwyddo'r wybodaeth hon i nifer o adrannau eraill y llywodraeth a gwasanaethau'r cyngor lleol ar eich rhan.

Gallwch ddweud wrthym unwaith yn unig, a byddwn yn cysylltu â'r holl sefydliadau hynny.