Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hyfforddiant codi a chario - gwrthrychau

Budd i'r Sefydliad

Bydd cyflogwyr yn cydymffurfio â'r gofynion arnynt o ran iechyd a diogelwch a bydd gweithwyr cyflog yn osgoi anafiadau poenus a chostus o ganlyniad i godi a symud gwrthrychau yn y ffordd anghywir. 

Pwy Ddylai Fynychu? 

Yr aelodau hynny o staff y nodwyd yn eu hasesiad risg ar godi a chario bod angen yr hyfforddiant hwn arnynt. 

Amcanion Dysgu

Rhoi i gyfranogwyr y wybodaeth a'r hyder angenrheidiol i sicrhau eu bod yn osgoi cymaint â phosibl y risg o anaf cyhyrysgerbydol wrth symud llwythi.

Cynnwys y Cwrs

  • Y gofynion cyfreithiol mewn perthynas â chodi a chario
  • Ymwybyddiaeth o ffactorau achosol a'r mathau o anafiadau cyhyrysgerbydol
  • Rhoi gwybodaeth mewn perthynas ag atal anafiadau cyhyrysgerbydol
  • Ffyrdd o godi a symud
  • Canfod y peryglon sydd ynghlwm wrth symud, codi a chario llwythi 

Hyd 

4 awr   (Amser: 09:15 to 12:30)

Dyddiad Cwrs

Cysylltwch â leadership@powys.gov.uk

Gwybodaeth Arall 

Rhaid i gyfranogwyr allu cymryd rhan yn elfen ymarferol y cwrs hwn. Cyfrifoldeb pob cyfranogwr unigol yw gofalu am eu hiechyd a'u diogelwch eu hunain a rhoi gwybod i'r hyfforddwr ymlaen llaw os yw eu gallu corfforol wedi ei gyfyngu mewn unrhyw ffordd.

Cyfnod Adnewyddu - 2 Flynedd 

Trefnu Lle

Gall gweithwyr Cyngor Sir Powys ddefnyddio Hunan Wasanaeth iTrent i gadw lle ar y cwrs hwn.  Ar gyfer holl ymgeiswyr eraill, cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma​​​​​​​