Sgorau glendid bwyd

Bwriad y Cynllun Sgorio Glendid Bwyd, a gyflwynwyd yn 2013, yw eich helpu i ddewis lle i fwyta neu siopa am fwyd trwy ddarparu gwybodaeth am safonau glendid mewn bwytai, tafarndai, caffis, siopau prydau parod, gwestai ac ati, ynghyd ag archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill.
Cyhoeddir yr holl Sgorau Glendid Bwyd presennol ar-lein gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, a gellir eu harchwilio trwy nodi enw a chyfeiriad y busnes dan sylw. | Sgorau archwilio |