Toglo gwelededd dewislen symudol

Sgorau glendid bwyd - Gwybodaeth y fusnesau

Os ydych yn fusnes bwyd a'ch bod wedi derbyn sgôr nad ydych yn credu sy'n adlewyrchu'n gywir yr amodau a ganfuwyd ar adeg archwiliad y Swyddogion, gallwch apelio yn erbyn y sgôr, yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio ein ffurflen apelio ar-lein, o fewn 21 diwrnod o'r dyddiad y byddwch yn derbyn y sgôr.

Fel arall, gall busnesau bwyd ofyn am gynnal archwiliad cyn dyddiad yr archwiliad glendid bwyd nesaf, fel y gellir gwirio gwelliannau a rhoi sgôr newydd os yn briodol. Gellir gwneud ceisiadau am ail-archwiliadau, a rhaid darparu digon o wybodaeth ar y gwelliannau sydd wedi'u gwneud i safonau glendid. Ar hyn o bryd, mae ceisiadau am ail-archwiliadau yn costio £180. Dylid gwneud taliad gyda cherdyn debyd, a gellir derbyn taliadau dros y ffôn.

Mae gan fusnesau bwyd yr 'hawl i ateb'. Mae'r hawl i ateb yn caniatau i fusnes bwyd wneud sylwadau ar y sgôr a roddir i'r busnes, y sylwadau a gyhoeddir ochr yn ochr â'r sgôr ar y wefan sgorau glendid bwyd.